Dyddiad
“Yn dilyn cyfraith a basiwyd yn Senedd Cymru, bydd cyfyngderau cyflymder ar y rhan fwyaf o ffyrdd cyfyngedig yn lleihau o 30mya i 20mya o fis Medi eleni. Bu cryn drafod ar y newid hwn yn genedlaethol ac yn lleol, o blaid ac yn erbyn. Mae hyn yn arbennig o wir mewn meysydd lle mae'r cynllun wedi cael ei beilota o flaen llaw.
“Roedd Bwcle yn un o'r wyth cymuned a ddewiswyd ar gyfer cam cyntaf y rhaglen genedlaethol ac felly cyflwynwyd cyfyngder cyflymdra o 20mya yn y dref rhwng Gorffennaf 2021 a Mai 2022. Yn fwy diweddar, trefnodd Cyngor Sir y Fflint a Llywodraeth Cymru broses ymgynghori gyda thrigolion lleol, yn y gymuned, ar-lein a thrwy holiadur, er mwyn deall barn pobl am y cynllun. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad ar-lein olaf ddoe (9 Chwefror) a bydd yr ymatebion nawr yn cael eu hystyried a’u cyhoeddi ym mis Mawrth.
“Tra bod y Comisiynydd Heddlu a Throsedd a Heddlu Gogledd Cymru wedi bod yn cadw llygaid ar y broses, mae gosod cyfyngiadau cyflymder yn gyfrifoldeb i'r awdurdodau lleol, neu, yn achos cefnffyrdd, Llywodraeth Cymru. Rôl y CHTh a Heddlu Gogledd Cymru drwy gydol y broses beilot, ac yn dilyn unrhyw newid mewn cyfyngiadau cyflymder yn ehangach yw gorfodi'r gyfraith fel y mae. Ni allwn wneud sylw ar fanteision nac anfanteision y gyfraith newydd, ond rydym yn ymrwymedig i weithredu pan fydd penderfyniadau yn cael eu gwneud yn dilyn y drefn briodol.