Skip to main content

Datganiad y CHTh yn dilyn pledio'n euog gan David Carrick

Dyddiad

Yn dilyn y ple euog ddiweddar David Carrick, cyn swyddog heddlu gyda’r Heddlu Metropolitan i nifer o droseddau treisio a rhywiol, mae Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, wedi rhyddhau’r datganiad canlynol:

Cydymdeimlaf yn ddwys gyda'r dioddefwyr a'u teuluoedd yn dilyn troseddau erchyll dyn a oedd i fod i gadw ein cymunedau'n ddiogel.  Mae'r dioddefwyr wedi dangos dewrder mawr wrth riportio ei droseddau i'r heddlu.

Bob dydd ar draws Cymru a Lloegr, mae'r rhan fwyaf o swyddogion yr heddlu yn gweithio'n galed yn cyflawni eu dyletswyddau gyda'r proffesiynoldeb mwyaf. Rwyf yn gwybod y byddwch yn rhannu fy nhristwch a fy nicter bod swyddog yn gallu cyflawni'r fath droseddau.

Ni ddylai Carrick fod wedi cael bod yn swyddog heddlu. Mae'n hollbwysig felly bod prosesau yn eu lle i atal pobl o'r fath rhag ymuno â'r heddlu yn y  lle cyntaf.  Dyna pham mae  fy nghyllideb arfaethedig ar gyfer y flwyddyn nesaf (a ysgrifennwyd cyn i'r achos hwn ddod i'r amlwg) yn cynnwys cyllid ychwanegol ar gyfer Uned Fetio Heddlu Gogledd Cymru.  Daw hyn ar yn sgil buddsoddiad a     awdurdodwyd gennyf yn gynharach eleni gan gyflogi dau swyddog heddlu ychwanegol ar gyfer Adran  Safonau Proffesiynol, i gynorthwyo gyriant ar gyfer safonau sefydliadol o'r radd uchaf.

Fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru  mi fuasai'n hawdd i  mi ddiystyru’r achos hwn fel problem yn y Met.  Nid wyf yn bwriadu gwneud hynny.  Ni fyddai hynny'n deg ar y dioddefwyr a'r goroeswyr trais sy'n byw yng Ngogledd Cymru.  Rwyf yn benderfynol o gyflwyno gwasanaeth effeithiol ac effeithlon i'n cymunedau i gyd. 

Dyna pam wnes i gwrdd â'r Prif Gwnstabl yn gynharach yr wythnos hon i drafod y materion hyn yn ddwys.  Credaf bod y polisïau a'r prosesau yn eu lle yn Heddlu Gogledd Cymru yn effeithiol  yn adnabod swyddogion a staff  nad ydynt yn cadw at y safonau sydd i ddisgwyl ohonynt.  Serch hynny, rwyf wedi gofyn am adroddiad yn rhoi manylion graddfa unrhyw sialens yn Heddlu Gogledd Cymru.  Pan fydd ar  gael, bydd yr adroddiad hwnnw  yn cael ei rannu gyda Phanel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.  Mae SCHTh Gogledd Cymru yn ymfalchïo mewn bod yn agored a thryloyw.   Byddaf  felly yn cyhoeddi cymaint o'r adroddiad ag y gallaf er mwyn bod yn dryloyw ac i ddangos atebolrwydd i'r cyhoedd ond rhaid cymryd i ystyriaeth unrhyw achos o gamymddwyn neu drosedd sydd ar y gweill.

Mae ymddiriedaeth y cyhoedd mewn plismona yn hanfodol. Ni all dull plismona’r DU, sef plismona drwy gydsyniad weithredu heb yr ymddiriedaeth a’r hyder hynny.  Mae'r Prif Gwnstabl a mi yn benderfynol o gael gwared ar unrhyw swyddog neu aelod o staff nad ydynt yn cadw at y safonau sydd i ddisgwyl ohonynt a byddant yn cael eu cosbi.

Hoffwn hefyd sicrhau pawb sydd wedi dioddef cam-drin domestig neu drais rhywiol bod ganddynt yr hyder i riportio materion o'r fath naill ai i Heddlu Gogledd Cymru neu drwy yr asiantaethau isod.

RASASC - 01248 670628 neu drwy e-bost info@rasawales.org.uk

Crimestoppers - 0800 555 111 neu ewch i wefan crimestoppers-uk.org

Stepping Stones - 01978 352717 neu 07814 358882 neu drwy e-bost: info@steppingstonesnorthwales.co.uk