Skip to main content

Dweud eich dweud ar sut mae Gogledd Cymru yn cael ei blismona

Dyddiad

PLISMONA TRAIS YN ERBYN MENYWOD A MERCHED - FFRAMWAITH CENEDLAETHOL AR GYFER CYFLAWNI BLWYDDYN 1

Mae ein harolwg Ymgynghoriad Cyhoeddus bellach ar gael yn https://www.surveymonkey.co.uk/r/GZB3PCJ i bobl ei gwblhau tan ddydd Gwener, Awst 20.

Gallwch hefyd ddod o hyd i fersiwn 'hawdd i'w ddarlen' o'r arolwg yma: Police Crime Plan Survey 2021 - Welsh Interactive PDFs


 Mae pobl ledled Gogledd Cymru yn cael eu hannog i gynorthwyo creu glasbrint newydd ar gyfer y ffordd y caiff y rhanbarth ei blismona a chynorthwyo i benderfynu lle dylai 20 o SCCH ychwanegol weithio.

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Andy Dunbobbin a'r Prif Gwnstabl Carl Foulkes yn gofyn i gymunedau lleol, grwpiau, a chyrff cynrychioladol ddweud wrthynt yr hyn maent yn feddwl sydd fwyaf pwysig a'r hyn maent yn poeni fwyaf amdano.

Mae Mr Dunbobbin yn paratoi i ysgrifennu ei Gynllun Heddlu a Throsedd cyntaf ar ôl cael ei ethol ym mis Mai. Mae'n awyddus i gymaint o bobl â phosibl i gael llais yn y broses.

Ynghyd â'r Prif Gwnstabl, mae'n gofyn i bobl gymryd rhan mewn arolwg a wnaiff gynorthwyo i siapio blaenoriaethau Heddlu Gogledd Cymru. 

Mae'r arolwg yn cwmpasu holl agweddau o blismona, o ymdrin â throsedd difrifol a threfnedig a gwarchod plant a phobl ifanc rhag camfanteisio a cham-drin rhywiol, i ymdrin â throlio ar y cyfryngau cymdeithasol ac ymateb i alwadau difrys.

Bydd ar gael yma https://www.surveymonkey.co.uk/r/GZB3PCJ i bobl ei gwblhau tan ddydd Gwener, 20 Awst. Bydd copïau papur ar gael i’r rhai nad ydynt yn dymuno llenwi’r fersiwn ar-lein. Mae fersiwn darllen hawdd ar gael hefyd.

Mae ar ffurf cwestiynau aml ddewis gyda chyfranogwyr yn mynegi ar raddfa un i bump ynghylch pa mor bwysig maent yn ystyried ydy pob agwedd wahanol o blismona.

Y nod yw cyhoeddi'r cynllun ym mis Medi.

Dywedodd Mr Dunbobbin: "Gogledd Cymru yw un o'r llefydd mwyaf diogel, i fyw ac i ymweld ag o yn y Deyrnas Unedig. Rwyf eisiau sicrhau bod hynny'n parhau. Fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, mae gen i ddyletswydd statudol i ymgynghori â phobl leol ar flaenoriaethau plismona.

"Gan ymgynghori gyda'r heddlu, rwyf yn drafftio fy Nghynllun Heddlu a Throsedd cyntaf. Er mwyn gwneud hynny, mae angen i'r heddlu a finnau fod yn ymwybodol o'r hyn mae pobl yn credu y dylai'r blaenoriaethau plismona fod.

"Fy nod ydy sicrhau bod barn, anghenion a disgwyliadau holl rannau o'n cymunedau'n cael eu hadlewyrchu yn y cynllun.

"Rwyf yn atebol i'r bobl pan mae'n dod i drosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Felly mae'n hanfodol bwysig i mi wybod yr hyn mae pobl yn meddwl sut ddylai'r rhanbarth gael ei blismona.

"Bydd y Cynllun Heddlu a Throsedd diweddaraf yn amlinellu mewn Cymraeg a Saesneg plaen y lefel o wasanaeth y gall pobl ddisgwyl ei dderbyn gan eu heddlu lleol.

"Yn hanfodol, byddaf yn ymgynghori'r cyhoedd ar y polisïau a oedd yn fy maniffesto pan gefais fy ethol.

"Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu cynnydd yn y nifer o SCCH yng Nghymru o 500 i 600. Rwyf wedi cael sgyrsiau i sicrhau bod Gogledd Cymru yn cael cyfran deg. O ganlyniad, mae'r heddlu i gael 20 SCCH ychwanegol.

"Mae'r arolwg hefyd yn rhoi'r cyfle i bobl roi eu barn ar le maent yn meddwl y dylai'r SCCH weithio.

"Yn bwysig, bydd hawliau a buddiannau dioddefwyr wrth galon y Cynllun Heddlu a Throsedd.

"Mae Canolfan Cymorth Dioddefwyr Gogledd Cymru yn gwneud gwaith gwych. Mae ganddo dimau arbenigol sydd wedi'u sefydlu er mwyn rhoi cymorth i ddioddefwyr troseddau seiber, camfanteisio'n rhywiol ar blant, caethwasiaeth fodern a thwyll.

"Rwyf yn awyddus buddsoddi ymhellach mewn gwasanaethau dioddefwyr. Byddaf yn sefydlu panel dioddefwyr fel bod gan oroeswyr hefyd lais yn y ffordd rydym yn gweithredu a'r cymorth rydym yn ei roi fel y gallwn wneud pethau'n well.

"Diben y Cynllun Heddlu a Throsedd ydy sicrhau bod yr heddlu'n talu sylw penodol at y pwyntiau hynny sydd wedi'u nodi yn hanfodol gan y cyhoedd, gennyf i ac yn wir gan yr heddlu ei hun.

"Rhan bwysig o'm rôl fel Comisiynydd fydd monitro cydymffurfiaeth yr heddlu gyda'r cynllun. Byddaf yn llym wrth eu dwyn yn atebol ar ran pobl Gogledd Cymru."

Dywedodd y Prif Gwnstabl Foulkes: "Mae barn pobl Gogledd Cymru yn bwysig iawn i ni a thrwy arolygon blaenorol, maent wedi siapio'r heddlu heddiw. 

"Rydym eisiau sicrhau ein bod yn ymdrin â phryderon cymunedau lleol er mwyn dylanwadu cynnwys a blaenoriaethau'r Cynllun Heddlu a Throsedd, a sut y plismonir Gogledd Cymru yn ei hanfod.  Ein nod yw sicrhau fod gan ein holl gymunedau lleol amrywiol lais mewn siapio gwasanaethau yn y dyfodol a dyrannu adnoddau.

"Ni fydd cwblhau'r arolwg yn cymryd llawer o amser. Ond bydd yn gwneud gwahaniaeth mawr o ran ein dealltwriaeth o'r hyn sy'n bwysig i'r cyhoedd, yn hyn maent yn feddwl rydym yn ei wneud yn dda a lle maent yn meddwl y gallwn wella.  Mae'r Comisiynydd a minnau'n edrych ymlaen at glywed gan gymaint o bobl a phosibl."

Ceir copïau papur o’r arolwg drwy gysylltu â opcc@nthwales.pnn.police.uk neu ffonio 01492 805486. Mae fersiwn darllen hawdd o’r arolwg ar gael hefyd.