Skip to main content

Gwneud gwahaniaeth i fy nghymuned fel Llysgenhadon Ifanc yr Heddlu

Dyddiad

Young Ambassador Programme

Mae Rebecca Jackson yn byw ger Caernarfon ac wedi bod yn Llysgennad Ifanc gyda Heddlu Gogledd Cymru ers mis Mai 2023. Lansiwyd y cynllun i annog pobl ifanc rhwng 16 a 24 oed i gamu ymlaen a sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed ar faterion plismona gan yr Heddlu.

Mae'r bobl ifanc i gyd yn byw yn yr ardal ac yn hysbysu a chefnogi'r heddlu ar faterion sy'n ymwneud â phobl ifanc ac yn cael dweud eu dweud ar blismona a throseddu lle maent yn byw. Yn yr erthygl hon, mae Rebecca'n siarad am ei phrofiad fel Llysgennad Ifanc a pham y dylai pobl ifanc eraill ystyried cymryd rhan.

"Mae rhaglen Llysgennad Ifanc Gogledd Cymru yn gynllun lle mae ystod amrywiol o bobl ifanc ledled Gogledd Cymru yn cael mynegi eu safbwyntiau a'u barn am blismona.

Rwyf wedi bod yn gwirfoddoli gyda chlwb ieuenctid lleol ers 2022. Yn ystod fy nghyfnod fel gwirfoddolwr, cefais gipolwg ar rai o'r materion sy'n effeithio ar bobl ifanc heddiw. Gwneud cais am y rhaglen Llysgenhadon Ifanc oedd y cam nesaf ymlaen o ran cymryd rhan bellach yn fy nghymuned a'm galluogi i gynrychioli lleisiau amrywiaeth eang o bobl ifanc o'm cwmpas.

Bob chwe wythnos, mae grŵp amrywiol o 13 o Lysgenhadon Ifanc yn cwrdd â Rhingyll Beth Jones, Arolygydd Marc Roberts a staff yr heddlu ym Mhencadlys Heddlu Gogledd Cymru ym Mae Colwyn. Daw llysgenhadon o bob cefndir ac os yw rhywun wedi cael problemau gyda throseddu neu bethau eraill yn y gorffennol, nid yw hyn yn eu hatal rhag bod yn rhan o'r rhaglen. Mewn gwirionedd, croesewir cefndiroedd gwahanol a phrofiadau bywyd.

Rydym yn cymryd rhan mewn sgyrsiau manwl ac weithiau dadleuol sy'n edrych ar ystod eang o faterion sy'n ymwneud â phobl ifanc heddiw. Gall y rhain gynnwys y berthynas rhwng yr heddlu a phobl ifanc, sut y gallai pobl ifanc fod yn ddylanwad cadarnhaol ar yr heddlu, a sut y gellid gwella plismona a gwneud hyd yn oed mwy o wahaniaeth cadarnhaol. Rydym hefyd wedi edrych ar sut mae pobl ifanc yn yr ardal yn cael eu trin yn y ddalfa, cyffuriau, iechyd meddwl, a phethau eraill yr ydym am eu dysgu am blismona.

Rydym hefyd yn trafod ein profiadau personol gyda'r heddlu ac a oeddent yn gadarnhaol neu'n negyddol a sut y gallai'r heddlu wella eu perthynas â phobl ifanc. Rydym hefyd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau grŵp i ddod i adnabod ein gilydd yn well ac adeiladu perthnasoedd. Yn y cyfarfodydd hyn rydym fel arfer yn rhannu'n grwpiau ac yn meddwl am ein cwestiynau ein hunain i holi pobl ifanc am eu barn am yr heddlu. Rydym hefyd wedi cael y cyfle I gwneud  holidauron i’w ddosbarthu I phobl ifanc ar draws Gogledd Cymru I gasglu gwybodaeth am y materion sydd yn effeithio nhw.

Mae mynychu'r cyfarfodydd hyn nid yn unig wedi fy nysgu i am sut mae plismona'n gweithio, ond mae hefyd wedi fy ngalluogi i ddatblygu perthynas gyda fy nghyfoedion a phobl o'r un anian. Rwyf wedi ennill llawer o sgiliau gwahanol, megis technegau cyfathrebu, hyder, dysgu am wahanol rolau'r heddlu a llawer mwy! Rydym hefyd wedi cael y cyfle i ymweld â'r ddalfa gyda'r rhaglen a oedd yn agoriad llygad. Mae'r rhaglen hon wedi rhoi llawer o brofiadau, cyfeillgarwch anhygoel i mi, a'r dymuniad i weithio ymhellach ochr yn ochr â'r heddlu.

Mae'r rhaglen Llysgenhadon Ifanc wir yn tynnu sylw at ymroddiad ac ymrwymiad Heddlu Gogledd Cymru i sicrhau bod pobl ifanc yn derbyn gofal ac yn cael eu cydnabod. Mae'r gefnogaeth a roddwyd i mi gan yr heddlu wedi bod yn ffactor sylweddol wrth gryfhau fy hyder a hunan-barch. Mae'n hynod o bwerus gwybod bod fy ymdrechion yn cael eu cydnabod a'u gwerthfawrogi. Ond rwy'n credu y gallai'r heddlu gysylltu â phobl ifanc mewn ffordd wahanol. Weithiau rwy'n credu y gall yr heddlu fod yn ystrydebol o bobl ifanc ac yn meddwl eu bod i gyd yn ymddwyn yr un fath, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y gallai'r heddlu ei wella. Efallai y bydd pobl ifanc yn teimlo na allant ymddiried yn yr heddlu ac nad yw'r heddlu'n hawdd I fynd at, mae hyn yn rhywbeth y gallai'r heddlu weithio arno yn fy marn i.

Mae cymryd rhan yn y rhaglen hon hefyd wedi rhoi'r hyder i mi wneud cais am swydd fel Prentis Modern ar gyfer Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru. Gobeithio y bydd hyn hefyd yn rhoi'r sgiliau angenrheidiol i mi ar fy nhaith tuag at weithio i Heddlu Gogledd Cymru yn y pen draw.

Dywedodd un o'm cyd-Lysgenhadon Ifanc: "Byddwn yn bendant yn argymell gwneud y Rhaglen Llysgenhadon Ifanc gan ei fod wedi bod o fudd mawr i mi allu rhoi hyn ar fy nghais UCAS, ond mae hefyd wedi fy helpu i ddatblygu syniadau newydd o'r heddlu a sut maen nhw eisiau helpu pobl ifanc a sut maen nhw am wella'r heddlu".

Mae bod yn aelod o'r rhaglen Llysgenhadon Ifanc wedi rhoi cipolwg i mi ar sut y gall yr heddlu fod yn ddylanwad cadarnhaol yn y gymuned drwy wrando ar farn yr aelodau. Rwy'n gobeithio y bydd llawer o bobl ifanc eraill yn cael y cyfle i gymryd rhan. Mae fy nghymhelliant wedi'i wreiddio mewn awydd cryf i wneud gwahaniaeth yn ein cymuned. Drwy ddod yn llysgennad ifanc i Heddlu Gogledd Cymru, gallwch chi hefyd wneud gwahaniaeth."

I ddysgu mwy am y rhaglen Llysgenhadon Ifanc, ewch I: www.northwales.police.uk/cy-GB/heddluoedd/heddlu-gogledd-cymru/ardaloedd/ymgyrchoedd/ymgyrchoedd/2023/young-ambassadors