Skip to main content

Nadolig Llawen oddi wrth Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru

Dyddiad

AD FHQ

Wrth i’r flwyddyn ddirwyn i ben a ninnau’n edrych ymlaen at gyfnod yr ŵyl, hoffwn ddymuno Nadolig Llawen iawn a Blwyddyn Newydd Dda hapus i chi, eich teuluoedd, ffrindiau ac anwyliaid. Mae 2022 wedi bod yn flwyddyn hynod o brysur i bawb ar draws teulu’r gwasanaethau brys yn gweithio i wneud Gogledd Cymru mor ddiogel â phosibl i’r holl drigolion. Gan edrych ymlaen at 2023, byddaf hefyd yn gweithio mor galed ag erioed i sicrhau bod fy Nghynllun Heddlu a Throsedd yn parhau i fod wrth wraidd plismona, a bod ei addewidion craidd o sicrhau cymdogaethau mwy diogel, cynorthwyo dioddefwyr a chymunedau, a system cyfiawnder troseddol deg ac effeithiol yn cael eu cyflawni er budd pobl yr ardal.

Mae’r Nadolig a’r Flwyddyn Newydd bob amser yn gyfnod heriol i blismona, gyda’r dathliadau yn eu hanterth a phobl yn mwynhau eu hunain. Mae’n ddyletswydd ar ein swyddogion a’n staff i warchod ein trigolion ac ymwelwyr rhag niwed. Gwn y gall hyn fod yn aml am bris i swyddogion heddlu, staff heddlu a’u teuluoedd, sy’n gweithio sifftiau pan allai pobl eraill fod gartref yn mwynhau’r Nadolig. Ond fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd, rwyf yn siŵr y gallaf siarad ar ran holl drigolion ac ymwelwyr Gogledd Cymru pan ddywedaf ein bod yn ddiolchgar iawn i bob un ohonynt am yr holl waith caled maent yn ei wneud i sicrhau diogelwch pobl ar draws y rhanbarth.

Cyfarchion y tymor,

Andy Dunbobbin,

Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru