Skip to main content

PLISMONA TRAIS YN ERBYN MENYWOD A MERCHED - FFRAMWAITH CENEDLAETHOL AR GYFER CYFLAWNI BLWYDDYN 1

Dyddiad

13-05-21-PCC-3

"Rwy'n croesawu rhyddhau'r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Plismona Trais yn erbyn Menywod a Merched yn brydlon. Mae digwyddiadau cenedlaethol trasig diweddar wedi dod â'r pwnc hwn i amlygrwydd cenedlaethol. Mae hyn wedi creu llawer iawn o weithgarwch i fynd i'r afael â Thrais yn Erbyn Menywod a Merched, ond mae llawer mwy o waith i'w wneud o hyd.

 Fel yr amlinellwyd yn fy Nghynllun Heddlu a Throsedd, rwy'n glir iawn am fy mlaenoriaeth i gefnogi dioddefwyr, yn enwedig drwy fynd i'r afael â Cham-drin Domestig a Thrais Rhywiol. Yr wyf wedi gweld y ffocws y mae Heddlu Gogledd Cymru wedi'i roi I’r maes hwn ac maent yn parhau i wneud. Mae hyn yn cynnwys ailedrych ar safon y gwasanaeth i ddioddefwyr, bethbynnag fo'r math o drosedd neu pan ddigwyddodd hynny. Rwyf hefyd yn cael fy nghalonogi gan yr ymdrechion mae'r Prif Gwnstabl yn ei wneud i ganolbwyntio ar ddiwylliant mewnol i herio unrhyw ymddygiad amhriodol mewn plismona. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros £6.5 miliwn yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gan weithio gyda darparwyr gwasanaethau VAWDASV. Byddaf yn parhau i gefnogi mentrau ac yn chwilio am gyfleoedd ariannu fel rwyf wedi ei wneud yn ddiweddar gyda'r Ymgyrch Diogelwch Menyw yn y Nos, lle sicrhawyd £202,000 ychwanegol i gadw menywod a merched yn ddiogel. Fel Tad i ferch 19 oed, rwyf wrth fy modd ein bod yn arwain y ffordd ar y fenter hon.  Ni yw'r heddlu cyntaf yng Nghymru i ddefnyddio'r rhaglen hon.  Mae ein hymgyrch a'n penderfyniad i atal sbeicio ac ymosodiadau rhywiol yn ddigynsail.

Byddaf yn sicrhau bod Heddlu Gogledd Cymru yn parhau i weithio'n effeithiol gyda phartneriaid i ddarparu gwasanaeth gwell fyth i wneud i bobl deimlo'n ddiogel a bod â hyder yn yr heddlu. Byddaf hefyd yn parhau i weithio gyda Phartneriaid Cyfiawnder Troseddol i ddarparu System Cyfiawnder Troseddol deg ac effeithiol

darllenwch yr adroddiad llawn yma.

Diwedd