Dyddiad
Gyda chyhoeddi adroddiad y Barwnes Louise Casey i safonau a diwylliant o fewn yr Heddlu Metropolitan, mae Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, wedi dweud y canlynol:
"Mae adroddiad heddiw i ddiwylliant a safonau'r Heddlu Metropolitan gan y Barwnes Louise Casey wedi achosi pryder i'r cyhoedd a'r bobl hynny o fewn y gwasanaeth heddlu. Mae bellach yn iawn i'r Heddlu Metropolitan adlewyrchu ar y canfyddiadau a gweithredu'n unol a hynny er mwyn adennill hyder pobl Llundain. Mae safonau uchel a diwylliant sy’n meithrin didwylledd, tryloywder ac ymrwymiad i wasanaeth heddlu yn hanfodol i’n traddodiad o blismona drwy ganiatâd. O fewn Gogledd Cymru, fe wnes gyhoeddi adroddiad yn ddiweddar yn edrych ar amlder achosion casineb at ferched yn yr Heddlu, y nifer achosion o dan ymchwiliad a’r mesurau mewn lle er mwyn gwarchod y cyhoedd a sicrhau fetio swyddogion yn gywir. Rwyf wedi fy nghalonogi o weld yr Heddlu yn gweithredu er mwyn atal casineb at ferched, ond mae mwy y gallwn ei wneud o hyd er mwyn sicrhau y bodlonir y safonau uchaf. Mae’r mwyafrif o swyddogion yn ceisio bob dydd i wneud y peth iawn a gwasanaethu eu cymunedau. Ond rwyf yn benderfynol o ddwyn yr heddlu’n atebol a gwnaf weithio gyda’r Prif Gwnstabl ac uwch swyddogion er mwyn sicrhau fod y mesurau sydd ganddynt mewn lle yn gwneud gwahaniaeth. Rhaid i ni wneud popeth a allwn er mwyn sicrhau fod gan bobl Gogledd Cymru hyder yn y swyddogion a staff sydd yno i’n gwasanaethu a’n gwarchod ni gyd.”