Skip to main content

Y CHTh yn annog preswylwyr Gogledd Cymru ddweud eu dweud, fel mae dyddiad cau’r ymgynghoriad ar blismona yn nesáu

Dyddiad

Dyddiad
AD

Ers mis Gorffennaf, mae Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, wedi bod yn ymgynghori efo preswylwyr y rhanbarth, er mwyn creu cynllun ar gyfer Heddlu Gogledd Cymru. Mae hyn er mwyn trechu trosedd yn yr ardal dros y pedair blynedd nesaf. Mae’r arolwg, fydd yn ffurfio sylfaen y cynllun, yn cau ar ddydd Gwener 27 Medi, ac mae’r CHTh yn galw ar breswylwyr sicrhau eu bod yn dweud eu dweud ar sut maen nhw eisiau i’w cymdogaethau gael eu plismona, cyn diwedd y cyfnod ymgynghori.

Dywedodd Andy Dunbobbin: “Hefo ond ychydig ddyddiau ar ôl i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hanfodol yma ar y Cynllun Heddlu a Throsedd ar gyfer Gogledd Cymru, ‘dwi’n annog pobl o bob cymuned, cefndir, oedran a llwybrau bywyd yng Ngogledd Cymru ddweud eu dweud ar sut maen nhw eisiau i’w cymuned gael ei phlismona dros y pedair blynedd nesaf.

“Mae gen i ddyletswydd gyfreithiol  ymgynghori efo’r cyhoedd ynglŷn â fy nghynllun, ac wedi treulio’r haf yn ymgysylltu efo pobl ledled y rhanbarth. ‘Da ni wedi rhedeg yr ymgynghoriad dros 10 wythnos, llawer hirach na’r chwe wythnos a argymhellir, gan ein bod yn awyddus iawn bod gymaint o bobl â phosib yn mynegi’u barn. ‘Dwi’n gwybod o’r broses hon bod gan lawer o bobl safbwyntiau cadarn am beth hoffen nhw ei weld yn digwydd yn eu cymdogaethau. Mae cymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn yn ffordd gyflym a rhwydd i drigolion rannu eu safbwyntiau efo fi a’r heddlu, a dylanwadu ar y cynllun i drechu trosedd yn ein rhanbarth.”

Mae’r arolwg, sy’n hawdd i’w gwblhau, yn cymryd pum munud a gallwch ei gyflawni gan ddefnyddio’r dolenni canlynol:

Cymraeg: www.surveymonkey.com/r/Ymgynghoriad-CHTh2024

Saesneg: www.surveymonkey.com/r/PCC-consultation2024

Yn ogystal â bod yn llais ar ran y bobl ym mhlismona, mae’r CHTh a’i swyddfa yn buddsoddi mewn gwasanaethau sy’n cyflawni gwaith gwerthfawr o fewn y gymuned. Er enghraifft, maen nhw’n helpu dioddefwyr troseddau ac yn helpu troseddwyr er mwyn lleihau ail-droseddu. Yn ei faniffesto, cyn iddo gael ei ethol, mi ddatganodd y CHTh mai ei addewidion allweddol ar gyfer ei gyfnod fel CHTh fyddai presenoldeb plismona cymdogaethau lleol; helpu dioddefwyr, cymunedau a busnesau; system cyfiawnder troseddol deg ac effeithiol; a Chomisiynydd Heddlu a Throsedd amlwg a chyfrifol.

Os ydy’n well gennych chi gael copi caled o’r arolwg, yn hytrach na’i gwblhau ar-lein, cysylltwch efo Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd drwy:

E-bost: : OPCC@northwales.police.uk

Ffôn: 01492 805486

Post: Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Pencadlys yr Heddlu, Glan y Don, Bae Colwyn, LL29 8AW.