Skip to main content

Y CHTh yn gweld sut mae prosiect yn Nhreffynnon yn dargyfeirio pobl ifanc o helyntion

Dyddiad

Dyddiad

Ddydd Mercher, 17 Gorffennaf, gwnaeth Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, gyfarfod hefo cynrychiolwyr o Gyngor Tref Treffynnon yng Nghanolfan Hamdden y dref er mwyn dysgu mwy am lwyddiant eu prosiect atal ymddygiad gwrthgymdeithasol nhw. Mae'r fenter, sy'n cael ei hariannu gan gronfa Eich Cymuned, Eich Dewis, wedi bod yn cael argraff gadarnhaol ar y gymuned leol ers dros flwyddyn.

Mae Eich Cymuned, Eich Dewis yn helpu sefydliadau ar lawr gwlad ar draws y rhanbarth ac yn cael help Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Ymddiriedolaeth Heddlu Gogledd Cymru a'r Gymuned a Heddlu Gogledd Cymru. Mae'r arian ar gyfer Eich Cymuned, Eich Dewis yn dod yn rhannol oddi wrth arian sydd wedi ei atafaelu drwy'r llysoedd drwy Ddeddf Enillion Troseddau gyda'r gweddill o Gronfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd.  Ers dechrau Eich Cymuned, Eich Dewis dros un mlynedd ar ddeg yn ôl, mae bron i £600,000 wedi cael ei roi i 200 o brosiectau sy'n gweithio er mwyn lleihau troseddau yn eu bröydd a helpu'r blaenoriaethau yng Nghynllun Heddlu a Throsedd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd.

Mae'r prosiect yn Nhreffynnon, sy'n ceisio dargyfeirio pobl ifanc o drosedd, yn darparu lle saff i ieuenctid gyfarfod mewn lleoliad anffurfiol. Mae'n cynnig amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys chwaraeon, celf a chrefft, anturiaethau awyr agored, a chyfranogiad cymunedol, i gyd wedi'u cynllunio mewn ymgynghoriad hefo'r bobl ifanc eu hunain.

Mae'r prosiect yn parhau esblygu, gan weithio'n agos hefo asiantaethau allweddol, rhanddeiliaid a gwirfoddolwyr er mwyn ymgysylltu hefo pobl ifanc a meithrin gwell cysylltiadau yn y gymuned.

Mae llwyddiant y fenter yn dibynnu'n fawr ar wirfoddolwyr ymroddedig sy'n datblygu ac yn cynnal y sesiynau, gan wneud yn siŵr bod y prosiect yn diwallu anghenion pobl ifanc anodd eu cyrraedd yn yr ardal.

Yn ystod yr ymweliad, gwnaeth y CHTh Dunbobbin gyfarfod hefo Maer Tref Treffynnon sef Linda Corbett, Dirprwy Glerc y Cyngor Tref sef Martin Fearnley yn ogystal ag Arolygydd Ardal Heddlu Gogledd Cymru Gogledd Sir y Fflint sef Wesley Williams er mwyn trafod cynnydd ac effaith y prosiect ar y gymuned leol. Hefyd yn bresennol roedd cynrychiolwyr eraill o'r prosiect, gan gynnwys staff o Aura Leisure, ficer Treffynnon a Maes Glas sef y Tad Dominic Cawdell a'r Parchedig Andrea de Vaal Horciu, sy'n gweinidogaethu ar stad Holway.

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: “Dwi'n falch o weld sut mae'r prosiect hwn wedi ffynnu dros y flwyddyn ddiwethaf yn Nhreffynnon. Drwy roi cyllid drwy'r fenter Eich Cymuned, Eich Dewis, 'da ni wedi gallu helpu rhaglen sydd wir yn gwneud gwahaniaeth ym mywydau pobl ifanc ac sy'n cyfrannu at gymuned saffach.”

Dywedodd Linda Corbett, Maer Treffynnon: “Mi fuaswn i'n hoffi dangos fy ngwerthfawrogiad i'r holl asiantaethau sy'n ymwneud hefo'r prosiect Eich Cymuned, Eich Dewis. Mae wedi gweithio'n dda o fewn Treffynnon. Er enghraifft, mae ymgysylltiad ieuenctid wedi cynyddu ac mae ymddygiad gwrthgymdeithasol ar ei lefel isaf erioed.” 

Dywedodd Martin Fearnley, Dirprwy Glerc Cyngor Tref Treffynnon: “'Da ni'n hynod ddiolchgar am y cyllid gan gronfa Eich Cymuned, Eich Dewis. Mae'r help hwn wedi ein galluogi ni greu rhaglen sy'n mynd i'r afael hefo anghenion penodol ein pobl ifanc ni ac yn helpu creu cymuned gryfach a mwy cydlynol.”

Dywedodd Ashley Rogers, cadeirydd PACT: “Dwi'n falch ein bod ni wedi gallu helpu'r prosiect hwn yn Nhreffynnon. Mae'n dangos ymrwymiad gwirioneddol i fynd i'r afael â throseddu ac anhrefn drwy bartneriaeth. Trwy ganolbwyntio ar y rhai sydd fwyaf mewn perygl, gallwn ni helpu greu cymdogaethau saffach a helpu cymunedau mewn ffyrdd ystyrlon.”

Dywedodd Gareth Evans, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gogledd Cymru:  “Mae'r prosiect hwn yn helpu atal trosedd drwy ymgysylltu hefo pobl ifanc yn gadarnhaol a dangos sut mae cydweithio rhwng yr heddlu a sefydliadau cymunedol yn gallu arwain at atebion effeithiol ar gyfer nifer o heriau sy'n wynebu cymunedau ledled y wlad.”

Er mwyn dysgu mwy am PACT, ewch ar www.pactnorthwales.co.uk ac er mwyn dysgu mwy am waith Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd, ewch ar www.northwales-pcc.gov.uk. Am fwy o wybodaeth am Gyngor Tref Treffynnon, ewch ar https://holywell.wales/