Skip to main content

Ymateb 4x4 Cymru yn helpu gwasanaethau brys a chymunedau ar draws Gogledd Cymru

Dyddiad

4x4 Response

Ar 21 Tachwedd, fe wnaeth Wayne Jones, Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru ac Uchel Siryf Clwyd sef Kate Hill-Trevor gyfarfod rhai o dîm Ymateb 4x4 Gogledd Cymru yn eu safle yn Chwarel Wern Ddu, yng Ngwyddelwern, Sir Ddinbych. Roedden nhw yno i edrych ar Drelar Cymorth Cymunedol newydd y grŵp a dysgu mwy am sut mae arian o Eich Cymuned, Eich Dewis yn cael ei ddefnyddio er mwyn helpu'r gwasanaethau brys ymateb i ddigwyddiadau.

Mae cronfa Eich Cymuned, Eich Dewis yn cynorthwyo prosiectau llawr gwlad ac mae'n derbyn cymorth gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Ymddiriedolaeth yr Heddlu a'r Gymuned Gogledd Cymru (PACT) a Heddlu Gogledd Cymru.(HGC) Mae'r arian ar gyfer Eich Cymuned, Eich Dewis yn dod yn rhannol oddi wrth arian sydd wedi ei atafaelu drwy'r llysoedd drwy Ddeddf Enillion Troseddau gyda'r gweddill o Gronfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd.

Mae Ymateb 4X4 Cymru yn sefydliad gwirfoddol sy'n rhoi ystod o gymorth i'r gwasanaethau brys yn ystod tywydd eithafol neu ddigwyddiadau eraill sy'n effeithio ar gymunedau bregus. Mae'r gwasanaethau hyn yn cynnwys darparu cerbydau 4x4 a gyrwyr, cludo cyflenwadau hanfodol gan gynnwys bwyd, dwr a meddyginiaeth, mudo aelodau o'r cyhoedd. Mae'r rhain yn wasanaethau a all ysgafnhau'r baich ar bersonél o'r heddlu a gwasanaethau brys eraill. Mae hyn i gyd er mwyn helpu effeithlonrwydd yr heddlu a gwasanaethau brys eraill yn y fan a'r lle.

Fodd bynnag, roedd gallu tîm Ymateb 4x4 Gogledd Cymru i ddarparu'r gwasanaethau hyn wedi'i atal o'r blaen mewn ardaloedd lle'r oedd cyfathrebu a phŵer wedi'i ymyrryd ag o.  Mae'r prosiect wedi'i ariannu gan Eich Cymuned, Eich Dewis wedi helpu datrys hyn drwy roi cyllid i'r Trelar Cymorth Cymunedol, gan roi help logistaidd hanfodol i gymunedau, yr heddlu a gwasanaethau brys eraill.   

Gellir gosod y trelar mewn lleoliadau pellennig neu anodd eu cyrraedd, ynghyd â mewn canolfannau cymunedol pentrefi, eglwysi, meysydd parcio cyhoeddus a phreifat. Mae'r trelar yn ganolbwynt cymunedol ar gyfer cyflenwadau pŵer 240V, ail-drydanu ffonau symudol a gliniaduron, cyfathrebiadau wi-fi lloeren a radio mewn safle diogel a chysgodol. Er mwyn darparu gwasanaethau lles, mae gan y trelar ddŵr ffres a lle diodydd poeth, cymorth cyntaf a diffibriliwr, cyfrifiadur a llu o safleoedd rheoli. Gall rheolyddion weithredu cyfathrebiadau ffôn a radio, cerbydau a systemau tracio ymateb a chyfnewidfa derbyn galwadau ffôn argyfwng bob awr o'r dydd, bob dydd o'r wythnos a phob diwrnod o'r flwyddyn o ddiogelwch y trelar.

Tra yn Wern Ddu, gwelodd y Dirprwy CHTh a'r Uchel Siryf hyfforddiant gyrwyr oddi ar y ffordd a chlywed cyflwyniad byr ar systemau'r trelar. Gwnaethant weld prydau'n cael eu coginio, dysgu mwy am Ymateb 4x4 Cymru a chyfarfod a siarad hefo gwirfoddolwyr ynghyd â'u cerbydau a'u hoffer. Yn dilyn hyn, teithiodd y grwp mewn cerbydau 4x4 i wylfa uchaf y chwarel lle cafwyd golygfeydd dros Dyffryn Dyfrdwy ac fe welwyd rhywfaint o hyfforddiant cyntaf i gyrraedd y fan a'r lle hefo claf yn uchel yn y chwarel ar y ffordd.

Dywedodd Wayne Jones y Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd: "Roedd yn wych gweld Ymateb 4x4 a gweld y gwaith rhagorol maen nhw'n ei wneud er mwyn helpu'r gwasanaethau brys gadw'r cyhoedd yn saff. Mae'n bwysig fod cymunedau'n dod at ei gilydd er mwyn rhoi help i wasanaethau brys lle mae angen a lle mae'n saff gwneud.  'Da ni gyd yn gwerthfawrogi'r gwaith mae aelodau tîm Ymateb 4x4 Gogledd Cymru yn ei wneud ar ran cyhoedd Gogledd Cymru."

Dywedodd Robin Hugo, Rheolwr Prosiect Trelar Tîm Ymateb 4x4 Gogledd Cymru: "'Da ni'n ddiolchgar iawn i'r CHTh a PACT am roi'r cyllid cychwynnol i'r trelar ac i'n haelodau am roi gweddill yr arian oedd ei angen. Mae'r tîm wedi gweithio'n galed ers mis Ebrill er mwyn llunio a chaffael y trelar a'r holl offer angenrheidiol. Y nod oedd cwblhau'r gwaith gosod a chomisiynu erbyn diwedd mis Medi, sef y dyddiad a osodwyd gan y CHTh a PACT.  Heb anghofio'r llu o fusnesau sydd wedi darparu offer a deunydd am ddim a rhatach i'n helpu ni gadw at ein cyllideb. 'Da ni'n edrych ymlaen at ddefnyddio'r trelar er mwyn helpu Heddlu Gogledd Cymru, Swyddogion Cynllunio Argyfwng a gwasanaethau brys eraill wrth helpu cymuned Gogledd Cymru."

Dywedodd Chris Allsop, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gogledd Cymru: "Gall swyddogion heddlu wynebu sawl sefyllfa heriol ar ddyletswydd. Mae gwybod fod Ymateb 4x4 a Threlar Cymorth Cymunedol wrth law i helpu pan mae angen yn cael ei werthfawrogi'n fawr. Dwi'n falch fod cronfa Eich Cymuned, Eich Dewis wedi gallu eu helpu nhw ymhellach yn eu gwaith nhw."

Dywedodd Ashley Rogers, cadeirydd PACT: "Mae Eich Cymuned, Eich Dewis a PACT yn canolbwyntio ar helpu ein cymunedau ni a phobl yn dod at ei gilydd er mwyn gwneud gwahaniaeth. Mae Ymateb 4x4 Gogledd Cymru yn enghraifft wych o hyn ar waith. Dwi'n falch ein bod ni wedi gallu helpu nhw gyflawni eu Trelar Cymorth Cymunedol. Dwi'n edrych ymlaen at weld y gwahaniaeth fydd o'n ei gael ar yr heddlu, ein gwasanaethau brys eraill ni, a phobl yr ardal."

Mae Eich Cymuned, Eich Dewis yn dathlu ei degfed pen-blwydd yn 2023 a, dros y deng mlynedd diwethaf mae dros £500,000 wedi cael ei roi i dros 150 o brosiectau yn gweithio i leihau trosedd yn eu hardaloedd a chynorthwyo'r blaenoriaethau yng Nghynllun Trosedd Comisiynydd yr Heddlu. Mae'r cyfnod ymgeisio diweddaraf bellach ar agor. Er mwyn gwneud cais, ewch ar:  www.pactnorthwales.co.uk/2023/11/14/community-projects-in-north-wales-urged-to-apply-for-share-of-60000-fund

Am fwy o wybodaeth ar Ymateb 4x4 Cymru, ewch ar: www.4x4responsewales.org