Skip to main content

Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru

Sy’n gyfrifol am lywodraethu plismona yn ein hardal

Andy Dunbobbin - The Quay Hotel, Deganwy 2

Amdan y Comisiynydd

Mae ar y Comisiynydd gyfrifoldeb cyffredinol i sicrhau heddlu effeithiol ac effeithlon sy'n dangos gwerth am arian ac, yn bwysicaf oll, yn lleihau trosedd.

OPCC COLLAGE 2

Gwybodaeth

I weld manylion am busnes swyddfa'r Comisiynydd a gwasanaethau wedi eu comisiynu.

Andy Dunbobbin & Amanda Blakeman

Gweithio mewn Partneriaeth

Mae datblygu partneriaethau effeithiol yn sylfaenol i’r gwaith a wneir gan y Comisiynydd.

Bydd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Andy Dunbobbin a Heddlu Gogledd Cymru yn cynnal cymorthfeydd misol i drigolion fel rhan o’i genhadaeth i ddod â phlismona yn agosach at bobl yr ardal. Bydd y fenter yn galluogi pobl leol i drafod plismona yn eu cymunedau ac i godi gofidion a sylwadau sydd ganddynt gyda'r Comisiynydd a swyddogion heddlu lleol.

Cyfarfod cymhorthfa nesaf:

Porthmadog

Llyfrgell Porthmadog (Ystafell Madog), Glaslyn, Stryd y Llan, Porthmadog, LL49 9HW

14.00-16.00 | 04 Rhagfyr 2024

Cliciwch yma am fanylion pellach.

Bydd manylion cyfarfodydd y dyfodol yn cael eu cyhoeddi maes o law.


VHC logo

Cymorth i ddioddefwyr trosedd

Mae darparu cymorth i ddioddefwyr trosedd yn flaenoriaeth allweddol i’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd. Un o'r gwasanaethau hanfodol y mae'r swyddfa'n ei gomisiynu ydy'r Ganolfan Cymorth Dioddefwyr, a leolir yn Llanelwy, sy'n cynorthwyo pob dioddefwr.

Os oes angen cymorth neu gyngor pellach arnoch chi, cliciwch ar y ddolen hon. (cliciwch 'Cymraeg' yn y faner uchaf i weld cyfieithiad Cymraeg)


Newyddion diweddaraf o Swyddfa'r Comisiynydd