Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Andy Dunbobbin wedi rhoi ei gefnogaeth lawn i Wythnos Gweithredu Busnes Mwy Diogel y Ganolfan Troseddau Busnes Cenedlaethol (NBCC) sydd â’r nod o leihau troseddau busnes ledled y wlad.
Mae myfyrwyr Prifysgol Wrecsam bellach yn medru cael profi sut beth ydy gweithio yn nalfa’r heddlu, diolch i gynllun ailgylchu gwreiddiol gan Heddlu Gogledd Cymru, a Chomisiynydd Heddlu a Throsedd y rhanbarth, Andy Dunbbobbin.
Ar 26 Medi, ymwelodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru ag Ysgol Uwchradd y Fflint, i weld sut mae sesiynau chwaraeon cymunedol yn cael eu trefnu ar gyfer pobl ifanc, drwy ddefnyddio arian a gymerwyd oddi ar droseddwyr.
Ers mis Gorffennaf, mae Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, wedi bod yn ymgynghori efo preswylwyr y rhanbarth, er mwyn creu cynllun ar gyfer Heddlu Gogledd Cymru. Mae hyn er mwyn trechu trosedd yn yr ardal dros y pedair blynedd nesaf. Mae’r arolwg, fydd yn ffurfio sylfaen y cynllun, yn cau ar ddydd Gwener 27 Medi, ac mae’r CHTh yn galw ar breswylwyr sicrhau eu bod yn dweud eu dweud ar sut maen nhw eisiau i’w cymdogaethau gael eu plismona, cyn diwedd y cyfnod ymgynghori.
Mae’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd dros Ogledd Cymru, Andy Dunbobbin, mewn cydweithrediad â phartneriaid allweddol, gan gynnwys awdurdodau lleol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Heddlu Gogledd Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, gwasanaethau prawf, a thimau troseddu ieuenctid, heddiw yn cyhoeddi ei fod wedi comisiynu’r cwmni ymgynghori, Wavehill, er mwyn cyflawni gwerthusiad cynhwysfawr o ymyraethau trais difrifol, sydd wedi’i gomisiynu gan Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol (CSPs) ledled Gogledd Cymru ers 1 Medi 2024.
Wrth i fyfyrwyr ddechrau eu tymhorau newydd mewn colegau a phrifysgolion ar draws Gogledd Cymru, mae Get Safe Online – gwasanaeth a gomisiynwyd gan Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd a Heddlu Gogledd Cymru er mwyn rhannu gwybodaeth a chyngor defnyddiol hefo pobl yr ardal – yn lansio ymgyrch 'Myfyrwyr Mwy Diogel' er mwyn annog y rhai mewn addysg i gadw'n ddiogel ar-lein.
Ar 27 Awst, ymwelodd Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol Llywodraeth Cymru, Jack Sargeant AS, ac Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru â siop Boots ar y Stryd Fawr ym Mangor er mwyn dysgu mwy am y mesurau sydd mewn lle i sicrhau bod staff manwerthu yn cael eu diogelu rhag cam-drin geiriol a chorfforol.
Ar 22 Awst, mi ymwelodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru â CPD Bangor 1876, yn eu sesiwn sgiliau pêl-droed rhad ac am ddim ym Maesgeirchen, Bangor.
Mae Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru yn cynnal eu cymhorthfa gyngor ar-lein gyntaf erioed ar Microsoft Teams ar 10 Medi 2024 rhwng 5:30pm a 7:30pm. Mae hyn yn rhan o berwyl y CHTh i ddod â phlismona yn agosach at bobl y rhanbarth.
Flwyddyn yn ôl, cyflawnodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru (CHTh) addewid maniffesto allweddol wrth greu Panel Dioddefwyr ar gyfer Gogledd Cymru. Perwyl y CHTh oedd sefydlu'r panel er mwyn rhoi "cyfle i ddioddefwyr a goroeswyr ddweud wrthym ni'r hyn y gellir ei wneud yn well a dal y CHTh, yr heddlu a'r asiantaethau yn atebol”.