Ddydd Mercher, 17 Gorffennaf, gwnaeth Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, gyfarfod hefo cynrychiolwyr o Gyngor Tref Treffynnon yng Nghanolfan Hamdden y dref er mwyn dysgu mwy am lwyddiant eu prosiect atal ymddygiad gwrthgymdeithasol nhw. Mae'r fenter, sy'n cael ei hariannu gan gronfa Eich Cymuned, Eich Dewis, wedi bod yn cael argraff gadarnhaol ar y gymuned leol ers dros flwyddyn.
Mae Heddlu Gogledd Cymru a Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru yn rhybuddio trigolion y rhanbarth i fod yn wyliadwrus, ar ôl gweld cynnydd troseddau’n ymwneud ag arian crypto a sgamiau yn yr ardal dros y misoedd diwethaf, efo aelodau’r cyhoedd yn dioddef ac yn colli arian i dwyllwyr.
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTh) Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin, wedi datgelu’r rhestr terfynol o ymgeiswyr llwyddiannus o’i Gronfa Chwaraeon yr Haf, sy’n cynnwys 26 sefydliad o bob un o chwe sir Gogledd Cymru.
Bydd Rhaglen Ysgolion Cymru, a elwir hefyd yn SchoolBeat Cymru, yn parhau yng Ngogledd Cymru diolch i ymdrechion a chyllid cyfunol Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru sef Amanda Blakeman a Chomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru sef Andy Dunbobbin.
Mae plismona yng Ngogledd Cymru yn rhywbeth sy’n bwysig i ni gyd. Dyna pam, rhwng rŵan a 27 Medi, mae Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, yn gofyn wrth bobl leol ddweud eu dweud ynglŷn â’r hyn maen nhw’n feddwl ddylai blaenoriaethau Heddlu Gogledd Cymru fod dros y pedair blynedd nesaf, a sut hoffai’r trigolion weld eu cymunedau yn cael eu plismona.
Aeth Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru a'i Ddirprwy, Wayne Jones i ymweld â Swyddfa Cymorth Dioddefwyr yn Llanelwy i ddysgu mwy am eu gwaith yn y gymuned, am bwysigrwydd derbyn arian pellach o swyddfa'r CHTh.
Mae Get Safe Online yn lansio ymgyrch “Safer Kids”, er mwyn annog y plant ledled yr ardal i ddefnyddio’r we yn ddiogel ac yn hyderus.
Mae clwb chwaraeon cadeiriau olwyn yng Ngogledd Cymru ar garlam diolch i'r cyllid a gymerwyd o elw troseddu. Fe wnaeth Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, ymweld hefo Rhyl Raptors er mwyn gweld sut mae'r arian yn cael ei ddefnyddio er lles y gymuned, ac yn arbennig er mwyn helpu'r clwb ehangu eu storfa er mwyn llwytho a dadlwytho cadeiriau olwyn chwaraeon.
Mewn cyfarfod arbennig o Banel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru ym Modlondeb, Conwy ar 21 Mehefin, ail-gadarnhawyd Wayne Jones fel Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru am gyfnod pellach o bedair blynedd.
Mae menter newydd wedi’i lansio heddiw yng Nghanolfan Busnes Conwy, Cyffordd Llandudno, efo’r nod o greu Gogledd Cymru heb drais. Ei henw ydy Strategaeth Ymateb i Drais Difrifol Gogledd Cymru, a bwriad y cynllun ydy gweithio efo cymunedau er mwyn atal a lleihau trais difrifol ar draws y rhanbarth.