Skip to main content

Newyddion

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru (CHTh) Andy Dunbobbin a Heddlu Gogledd Cymru yn cynnal cymhorthfa gyngor yn llyfrgell y dref yn Neuadd y Farchnad ar Stryd Stanley ar gyfer trigolion Caergybi a’r cyffiniau o 2-4pm ar Orffennaf 24 fel rhan o'i ymgyrch i ddod â phlismona yn agosach at bobl yr ardal. 

Hefo Ewro 2024 yn yr Almaen a Gemau Olympaidd a Pharalympaidd yr Haf ym Mharis yn prysur agosáu, mae cronfa newydd yn cael ei lansio sy'n ceisio helpu clybiau a sefydliadau chwaraeon ledled Gogledd Cymru gynnal gweithgareddau i bobl ifanc y rhanbarth dros y gwyliau.

Mae prynu meddyginiaeth ar-lein yn gyfleus ond mae angen gofal. Er bod llawer o safleoedd yn gyfreithlon, mae'n hanfodol gwirio addasrwydd a diogelwch. Mae Heddlu Gogledd Cymru a Get Safe Online wedi lansio ymgyrch sy’n tynnu sylw at beryglon posibl prynu meddyginiaethau ar-lein

Ar 30 Mai yng Ngorsaf Heddlu'r Wyddgrug, dathlwyd partneriaeth rhwng Heddlu Gogledd Cymru ac Ymddiriedolaeth Elusennol Graham Fulford ("yr Ymddiriedolaeth"), sef sefydliad codi ymwybyddiaeth am ganser y brostad, er mwyn hyrwyddo sgrinio canser y brostad.

Ar 29 Mai, fe wnaeth Andy Dunbobbin, CHTh Gogledd Cymru, ymweld â Rockworks Academy. Mae'r sefydliad yn fenter gymdeithasol sydd wedi ymroi gwneud cerddoriaeth yn hygyrch i bawb, lle bynnag maen nhw'n byw a beth bynnag fo'u hamgylchiadau nhw.

Ymwelodd CHT) Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin,â Gwersyll Ardal Talwrn ar Ynys Môn ar ddydd Sadwrn, 25 Mai, er mwyn dysgu mwy am waith a gweithgareddau’r Sgowtiaid, ac i weld sut mae arian a atafaelwyd gan droseddwyr yn cael ei ddefnyddio er lles pobl ifanc.

Mae Alzheimer’s Research UK yn amcangyfrif bod 944,000 o bobl yn byw efo dementia yn y Deyrnas Unedig. Oherwydd twf yng ngraddfa’r cyflwr, mae Heddlu Gogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) wedi ymuno i ehangu eu dosbarthiad o’u cyfres o ffilmiau, “Byw’n Well gyda Dementia”.

Ar ddydd Sadwrn 11 Mai, ymwelodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru â’r Corws Forget-me-not ym Modelwyddan, Sir Ddinbych. Mae’r elusen a chôr, a gychwynnodd y 2011, yn cynorthwyo unigolion sy’n byw efo dementia drwy gyfrwng trawsnewidiol cerddoriaeth, ac ‘roedd yn llwyddiannus yn ddiweddar yn ymgeisio am fuddsoddiad oddi wrth fenter Eich Cymuned, Eich Dewis.

Mae SCHTh yn parhau i edrych yn graff ar waith Heddlu Gogledd Cymru mewn amryw o ffyrdd eang, ac yn ddiweddar wedi cynnal adolygiad pellach o’r Bwrdd Strategol Gweithredol chwarterol, a gymerodd le ar 8 Mai.

Ymwelodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin â Chlwb PêlDroed Prestatyn Sports yn ddiweddar, i weld  effaith cadarnhaol  eu cais llwyddiannus am fuddsoddiad drwy Eich Cymuned, Eich Dewis. Yn ystod yr ymweliad, gwelodd y Comisiynydd gyfleusterau’r clwb a’r cynnydd a wnaed yn ehangu eu cynigion pêldroed i bobl ifanc.