Ar 2 Mai 2024, etholwyd Andy Dunbobbin o Lafur Cymru gan etholwyr Gogledd Cymru, i fod yn Gomisiynydd Heddlu a Throsedd am y pedair blynedd nesaf.
Mae Heddlu Gogledd Cymru a Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd (SCHTh) am weithio efo arbenigwyr mewn diogelwch ar-lein, Get Safe Online, i amlygu’r peryglon o Sgamiau Buddsoddiadau i drigolion Gogledd Cymru.
Mae Heddlu Gogledd Cymru a Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru yn gweithio hefo arbenigwyr diogelwch ar-lein sef Get Safe Online er mwyn amlygu rhai o'r bygythiadau wrth brynu tocynnau ar-lein.
Mae grŵp chwaraeon lleol yn Sir y Fflint yn defnyddio arian a atafaelwyd oddi wrth droseddwyr i greu amgylchedd mwy dymunol yn eu pencadlys. Mae Clwb Criced Bwcle, a ffurfiwyd yn 1898 wedi llwyddo i gael arian gan Eich Cymuned Eich Dewis.
Ar 20 Mawrth, ymwelodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin, â Band Arian Llanrug i gwrdd ag aelodau, dysgu mwy am waith gwerthfawr y sefydliad yn lleol ac i glywed sut mae arian a atafaelwyd gan droseddwyr yn cael ei ddefnyddio i ehangu mynediad at gerddoriaeth yn y gymuned.
Ar ddydd Mercher Mawrth 13, ymwelodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin, â Chlwb Pêl Droed Seintiau Bangor, yn Canolfan Hamdden Byw’n Iach ar Ffordd Garth Bangor, i gael blas ar eu gwaith effeithiol efo bobl ifanc lleol, ac i ddysgu sut mae’r arian a’i gymerwyd gan droseddwyr yn helpu i gefnogi gwaith y tîm yn y gymuned leol.
Fe wnaeth grŵp cymunedol lleol yn Wrecsam groesawu Kate Hill-Trevor, Uchel Siryf Clwyd ac Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru ar gyfer ymweliad ar 16 Mawrth. Mae Cerddwyr Nordig Erddig yn hyrwyddo ffitrwydd a lles drwy ymarfer corff hygyrch addas i bob oed a gallu. Yn cael ei redeg gan wirfoddolwyr ymroddedig, mae'r grŵp wedi mynd o nerth i nerth, hefo 180 aelod wedi cofrestru bellach.
Mae grŵp cymunedol lleol yn defnyddio cyllid a gafodd ei atafaelu gan droseddwyr er mwyn creu mynediad hyfryd a chroesawgar i ysbyty fwyaf gogledd ddwyrain Cymru. Roedd Garddwyr Cymunedol Wrecsam, ddechreuodd ym mis Medi 2023 ac sy'n dod â 25 o wirfoddolwyr 10 i 70 oed at ei gilydd, yn un o enillwyr diweddar cyllid Eich Cymuned, Eich Dewis ar gyfer eu prosiect 'First Impressions' yn Ysbyty Maelor Wrecsam.
Mae menter yng Ngogledd Cymru sy'n helpu i gefnogi pobl ifanc leol yn dathlu ar ôl derbyn cyllid i sefydlu sylfaen newydd gan ddefnyddio arian a gymerwyd o enillion troseddau.
Aeth Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, i weld clwb ieuenctid Porthi Dre i gwrdd â staff ac aelodau ac i ddysgu mwy am eu gwaith gwerthfawr yn y gymuned a sut y gall arian sydd wedi ei atafaelu gan droseddwyr gael ei ddefnyddio er lles pobl ifanc yn ardal Caernarfon.