Ym mis Mawrth, mae Tîm Troseddau Seiber Heddlu Gogledd Cymru a Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn ymuno hefo arbenigwyr diogelwch ar-lein sef Get Safe Online er mwyn amlygu rhai o fygythiadau chwarae gemau ar-lein.
Cyhoeddwyd enillwyr cronfa £50,000 arbennig er mwyn helpu cymunedau ar draws Gogledd Cymru mewn digwyddiad ym Mae Colwyn ar 23 Chwefror. Mae'r fenter, sef Eich Cymuned, Eich Dewis yn helpu prosiectau llawr gwlad yn y rhanbarth ac mae'n cael help Ymddiriedolaeth yr Heddlu a'r Gymuned Gogledd Cymru (PACT), Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, a Heddlu Gogledd Cymru.
Mae Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd (SCHTh) Gogledd Cymru yn chwilio am aelodau o'r cyhoedd ar draws yr ardal i ymuno yn wirfoddol fel Ymwelwyr Annibynnol â'r Ddalfa (ICVs) sy'n ymweld â rhai yn y ddalfa wedi iddynt gael eu harestio.
Cafodd man cyfarfod newydd ar gyfer y gymuned leol ei agor yn swyddogol yng Nglyn Ceiriog ar ddydd Sul 18 Chwefror gan ddangos sut mae arian wedi'i gymryd oddi ar droseddwyr yn cael ei ddefnyddio er mwyn datblygu a chryfhau cyfleusterau bro ar draws Gogledd Cymru.
Paru ar-lein ydy'r ffordd fwyaf ffasiynol o gyfarfod rhywun o bell ffordd. Wrth i Ddydd San Ffolant nesáu, mae'n amser prysur o'r flwyddyn a mae hyn yn golygu ei bod yn amser prysur i droseddwyr seiber sy'n dynwared edmygwyr er mwyn dwyn arian neu hunaniaeth pobl, neu'r ddau.
Mis Chwefror ydy'r mis yn y flwyddyn pan mae pobl yn dechrau meddwl am archebu eu gwyliau haf. 'Da ni'n aml yn dod ar eu traws ac yn eu harchebu nhw ar-lein. Ond mae twyllwyr yn hoff o'r rhyngrwyd hefyd.
Ar 30 Ionawr, dangoswyd ffilm newydd drawiadol, ‘Digon yw Digon’ , am y tro cyntaf yn Sinema’r Empire yng Nghaergybi.
Mewn cyfarfod y prynhawn yma ym Modlondeb, Conwy, gwnaeth Panel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru gymeradwyo cynnig Andy Dunbobbin, y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, am gynnydd cyfradd is na'r disgwyl yn y praesept plismona.
Ar 22 Ionawr, fe wnaeth Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTh) ymweld â safle GISDA yng Nghaernarfon er mwyn cyfarfod hefo staff a phobl ifanc o'u Clwb Ieuenctid LHDTQ+. Roedd yno er mwyn siarad am gysylltiadau cymunedol hefo'r heddlu a phryderon ynghylch trosedd casineb.