Skip to main content

Newyddion

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Andy Dunbobbin yn cynnal cymorthfeydd yng Nghanolfan Glanhwfa, Ffordd Glanhwfa i drigolion Llangefni a'r ardal o 2pm i 4pm ar 25 Hydref fel rhan o'i ymgyrch i ddod â phlismona yn agosach at bobl yr ardal.

Aeth Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru i weld Pentre Peryglon yn Nhalacre er mwyn gweld y gwaith hanfodol mae'r sefydliad yn ei wneud er mwyn helpu pobl ifanc Gogledd Cymru.

Wythnos Genedlaethol Troseddau Cefn Gwlad yn lansio heddiw, 18 Medi, gan barhau tan 24 Medi 2023. Mae'r ymgyrch wedi'i threfnu gan Rwydwaith Cenedlaethol Troseddau Cefn Gwlad, sy'n gweithio er mwyn gweld gwell cydnabyddiaeth a dealltwriaeth o broblemau ac effaith troseddau yng nghefn gwlad.

Deall troseddau casineb a bregusrwydd yng Ngogledd Cymru fydd canolbwynt digwyddiad arbennig yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb y DU, sy'n rhedeg o 14-21 Hydref. 

Mae Andy Dunbobbin, y Comisiynydd Heddlu a Throsedd wedi datgelu'r rhestr derfynol o ymgeiswyr llwyddiannus ei Gronfa Bêl-droed yr Haf, mewn partneriaeth â Chymdeithas Bêl-droed Cymru. 

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Andy Dunbobbin yn cynnal cymorthfeydd yn Canolfan Gymunedol Abergele, Stryd y Farchnad i drigolion Abergele a'r ardal o 2pm i 4pm ar 20 Medi fel rhan o'i ymgyrch i ddod â phlismona yn agosach at bobl yr ardal.

Mae gwasanaeth newydd sy'n hawdd ei ddefnyddio wedi’i lansio i roi cefnogaeth a chyngor i blant a phobl ifanc sy'n dioddef trosedd yng Ngogledd Cymru. Mae'r gwasanaeth yn cynnwys Gweithiwr Achos Plant a Phobl Ifanc yn y Ganolfan Cymorth i Ddioddefwyr, a leolir ym Mhencadlys Rhanbarthol Heddlu Gogledd Cymru yn Llanelwy.

Fel rhan o sicrhau fod pobl Gogledd Cymru yn cael eu gwarchod rhag twyll, gwnaeth y Comisiynydd Heddlu a Throsedd prosiect arbrofol er mwyn i Weithiwr Achos Twyll ymuno â'r tîm o weithwyr achos arbenigol yn y Ganolfan Cymorth Dioddefwyr.

Ym Mhencadlys Heddlu Gogledd Cymru ym Mae Colwyn, cynhaliwyd cyfarfod cyntaf corff newydd -  Fforwm Atal a Lleihau Niwed. Ei nod ydy codi ymwybyddiaeth yng Ngogledd Cymru am syniadau atal a lleihau niwed camddefnyddio sylweddau ar hyn o bryd.

Ar ddydd Mercher 19 Gorffennaf, ymwelodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTh) Gogledd Cymru â Hamdden Harlech ac Ardudwy yn eu canolfan yn Harlech, Gwynedd. Diben yr ymweliad oedd gweld â grŵp tu ôl i'r prosiect a dysgu mwy am sut maent yn elwa o'r cyllid a dderbyniwyd drwy fenter Eich Cymuned, Eich Dewis y CHTh.