Skip to main content

Newyddion

Mae Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd (SCHTh) Gogledd Cymru bellach yn recriwtio unigolion ar draws y rhanbarth er mwyn ymuno fel Ymwelwyr Dalfeydd Annibynnol. Mae'r rhain yn aelodau o'r cyhoedd sy'n cynnal ymweliadau rheolaidd â phobl a gedwir yn nalfa'r heddlu ar draws Gogledd Cymru, gan sicrhau bod eu lles a'u hanghenion yn cael eu diwallu.

Oherwydd galw eithriadol, ac er mwyn sicrhau fod cymaint o dimau pêl droed â phosib yn gallu defnyddio'r cyllid, mae dyddiad cau ymgeisio ar gyfer Cronfa Bêl Droed yr Haf y Comisiynydd Heddlu a Throsedd sef Andy Dunbobbin yn symud i 4 Awst.

Ar 20 Gorffennaf, ymwelodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTh) Gogledd Cymru, â Wrecsam er mwyn gweld sut mae cyllid o fenter Eich Cymuned, Eich Dewis yn cynorthwyo hyrwyddo'r ddinas i'r cyhoedd, lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol, a rhoi sgiliau cyfryngau cymdeithasol newydd i bobl ifanc.

Ar ymweliad diweddar i loches yn sir Conwy, dysgodd Andy Dunbobbin, y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, am y cymorth arbenigol sydd ar gael i ddioddefwyr cam-drin domestig o'r gymuned Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol (BAME) yn y rhanbarth. 

Gyda gwyliau'r haf yn dynesu, mae clybiau a sefydliadau ieuenctid ledled Gogledd Cymru yn cael eu hannog i ymgeisio am gyllid er mwyn cynnal gweithgareddau gan Gronfa Bêl Droed yr Haf arbennig Andy Dunbobbin sef y Comisiynydd Heddlu a Throsedd. Mae'r gronfa'n dechrau heddiw (17.07.23) mewn partneriaeth gyda Chymdeithas Bêl Droed Cymru. 

Ar ddydd Llun 10 Gorffennaf, rhannwyd stori Olivia Alkir, geneth ifanc o Ruthun, yn Portcullis House, Westminster. Roedd oddeutu 50 yn bresennol, gan gynnwys aelodau'r Tŷ Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi, ymgyrchoedd diogelwch ffyrdd, cynrychiolwyr o'r gwasanaethau brys, swyddfeydd Comisiynwyr Heddlu a Throsedd, a'r diwydiant yswiriant, gyda'r nod o wneud ffyrdd ein gwlad yn fwy diogel i bobl ifanc. 

Ar ddydd Sul 9 Gorffennaf, aeth Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru i Ynys Môn er mwyn cyfarfod ag Amlwch Showstoppers sef grŵp drama amatur sy'n gweithio er mwyn dod â doniau ifanc i'r dref at ei gilydd mewn amgylchfyd hwyliog a chyfeillgar. Roedd Amlwch Showstoppers yn un o enillwyr diweddar arian o fenter cyllid Eich Cymuned, Eich Dewis y Comisiynydd.

Mewn digwyddiad ar Gae Ras CCPD Wrecsam, gwnaeth Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, gyflwyno Gwobr Cymuned Ddiogelach yn ddiweddar i John Widdowson ac Ymddiriedolaeth Gymunedol y clwb am y gwaith maent wedi bod yn ei wneud er mwyn lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y ddinas.

Ar ddydd Gwener, 30 Mehefin, gwnaeth Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, ymweld â'r Rhyl er mwyn clywed am sut mae swyddogion lleol yn y dref yn gweithio er mwyn lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol a mathau eraill o drosedd yn y dref. 

Ar ddydd Sadwrn 1 Gorffennaf, ymwelodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTh) Gogledd Cymru, â Sgowtiaid Ardal Conwy yn eu gwersyll yn Rowen. Dysgodd fwy am y grŵp a'u gweithgareddau a sut mae cyllid o gronfa'r Comisiynydd sef Eich Cymuned, Eich Dewis yn mynd tuag at eu prosiect cynnal.