Skip to main content

Newyddion

Mae Checkpoint wedi lansio gwasanaeth newydd i wella profiad a dyfodol troseddwyr benywaidd o fewn y system cyfiawnder troseddol ar draws Gogledd Cymru.

3-9 Gorffennaf ydy Wythnos Ymwybyddiaeth am Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, sef yr ymgyrch genedlaethol gan Resolve. Ei nod ydy codi ymwybyddiaeth am ymddygiad gwrthgymdeithasol, cynnig cyngor ar sut i hysbysu amdano a phwy ddylai wybod, a deall hawliau'r bobl fel dioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae'r ymgyrch yn cael ei chefnogi gan Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTh) Gogledd Cymru.

Ar 21 Mehefin, aeth Comisiynydd Heddlu a Throsedd Heddlu Gogledd Cymru Andy Dunbobbin i Ganolfan Girlguiding Anglesey ym Mhenrhoslligwy i ddysgu mwy am y grŵp a'u gweithgareddau a sut y bydd arian o gronfa'r Comisiynydd,

Cynhaliwyd digwyddiad cyntaf o'i fath am ddim i berchnogion busnes yng Ngogledd Cymru ar sut i gadw eu busnesau'n ddiogel rhag troseddau seiber ym Mhrifysgol Wrecsam ar 14 Mehefin.

Ar 12 Mehefin, aeth Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru i Ysgol Morgan Llwyd yn Wrecsam i weld sut mae prosiect dyfeisgar sy'n ymgysylltu ag ieuenctid yn canolbwyntio ar achosion creiddiol ymddygiad gwrthgymdeithasol (ASB) ymysg pobl ifanc yn yr ardal. 

Mewn cyfarfod arbennig o Blismona yng Nghymru ar fore 8 Mehefin, enwyd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, yn Gadeirydd y fforwm.

Aeth Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru i ymweld â Cobra Life Family Martial Arts Academy yn Shotton ar 26 Mai i weld y gwaeth arbennig y mae'r clwb yn gwneud yn y gymuned ac i weld sut mae arian sy'n cael ei gymryd oddi wrth droseddwyr yn cael ei ddefnyddio er lles pobl ifanc yn yr ardal. 

Mae mis Mehefin yn Fis Balchder, dathliad blynyddol o'r nifer o gyfraniadau a wnaed gan y gymuned LHDTQ+ i hanes, cymdeithas a diwylliannau o amgylch y byd. Mae Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, wedi cefnogi'r dathliad ac wedi ailadrodd ei benderfyniad i weld Gogledd Cymru sy'n croesawu amrywiaeth a chynhwysiant ac sy'n brwydro gwahaniaethu. 

Cynhaliwyd Seremoni Gwobrau Cymunedol Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru ar ddydd Iau, 1 Mehefin, er mwyn dathlu'r bobl yn ein cymunedau ledled y rhanbarth sy'n gwasanaethu eu cymunedau ac yn cefnogi'r heddlu yn eu gwaith. 

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Andy Dunbobbin yn cynnal cymorthfeydd yn Ystafell Parlwr Mawr, Theatr y Ddraig, Jubilee Road i drigolion Y Bermo a'r ardal o 2pm i 4pm ar 21 Mehefin fel rhan o'i ymgyrch i ddod â phlismona yn agosach at bobl yr ardal.