Skip to main content

Newyddion

Mae pobl yng ngogledd Cymru yn cael cyfle i holi Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru a phrif gwnstabl y rhanbarth.
Mae cyn-droseddwr yn symud ymlaen gyda'i fywyd ar ôl cael achubiaeth gyda'r "tîm pêl-droed mwyaf amrywiol yn y byd".

Mae pob swyddog llinell flaen yng Ngogledd Cymru yn cael hyfforddiant arbenigol i ddarparu gwell diogelwch ar gyfer dioddefwyr camdriniaeth ddomestig gan achub bywydau.

Bydd pennaeth heddlu yn chwarae rhan allweddol wrth ddefnyddio technoleg i ymladd troseddau ledled y DU.
Mae mam i ddau o ddau a gafodd ei thagu, ei dyrnu ac ergyd i'w phen gan ei phartner milain yn dweud y bydd hwb o £320,000 i elusen cam-drin domestig "yn arbed bywydau".

Mae pobl ledled Gogledd Cymru yn cael eu hannog i gynorthwyo creu glasbrint newydd ar gyfer y ffordd y caiff y rhanbarth ei blismona a chynorthwyo i benderfynu lle dylai 20 o SCCH ychwanegol weithio.

Mi wnaeth pennaeth plismona newydd gogledd Cymru daro ar wyneb cyfarwydd pan dreuliodd ddiwrnod ar y bît yn Wrecsam.

Bydd adnabod rhifau ceir yn awtomatig a dwsinau o gamerâu teledu cylch cyfyng newydd yn cael eu defnyddio mewn ymgyrch uwch-dechnoleg mewn dau leoliad troseddu problemus yng ngogledd Cymru.

Mynegodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin ei farn yn groyw yn dilyn methiant yr achos yn erbyn uwch swyddogion a chyfreithiwr Heddlu De Swydd Efrog dros farwolaethau 96 o gefnogwyr Lerpwl yn Hillsborough 32 mlynedd yn ôl.

Mae pennaeth heddlu yn annog ffermwyr yng ngogledd Cymru i ddefnyddio synwyryddion clyfar pŵer isel i ymladd lladron sy'n dwyn o ffermydd.