Skip to main content

Newyddion

Mae pennaeth heddlu newydd wedi addo gwneud popeth o fewn ei allu i frwydro yn erbyn y llif cynyddol o droseddau ar-lein.
Mae portread o'r comisiynydd heddlu a throsedd yn y sioe deledu boblogaidd Line of Duty wedi cael ei beirniadu fel un "hollol afrealistig" gan ddyn sydd wedi bod yn gwneud y gwaith ers go iawn ers pum mlynedd.

O hyn ymlaen bydd plismyn ar draws gogledd Cymru yn cario chwistrell trwynol “gwyrthiol” sy'n gweithredu fel gwrthwenwyn i orddos cyffuriau ar ôl i ddau fywyd gael eu hachub yn ystod prosiect peilot.

Mae hen safle ffatri wedi cael ei drawsnewid yn hafan ar gyfer bywyd gwyllt sydd wedi ennill gwobrau yn dilyn agor gorsaf heddlu fwyaf modern Cymru.
Mae dyn wedi siarad yn ddewr am y modd y gwnaeth oresgyn teimladau o hunanladdiad a blynyddoedd o gamddefnyddio alcohol ar ôl cael ei gam-drin yn rhywiol gan ei dad maeth yn 13 oed.
Mae pennaeth heddlu a dwy elusen cam-drin yn annog dynion yng ngogledd Cymru i wneud mwy i helpu merched i deimlo'n ddiogel yn sgil cipio a llofruddio Sarah Everard.
Mae arian a atafaelwyd gan droseddwyr yn cael defnydd da wrth recriwtio cenhedlaeth newydd o wirfoddolwyr hosbis ifanc.

Mae clwb criced lleol blaengar ar genhadaeth i gael plant yn Wrecsam i chwarae'r gêm eto gyda rhaglen hyfforddi a chwarae uchelgeisiol – y telir amdani gydag arian a atafaelwyd gan droseddwyr.

Bydd gofod awyr agored poblogaidd y mae gwirfoddolwyr o bob oed yn gofalu amdano yn parhau i fod wrth galon cymuned - diolch i arian parod a atafaelwyd gan droseddwyr.