Mae cronfa o £60,000 ar gael fydd yn “rhoi’r penderfyniad yn nwylo’r bobol” i benderfynu pwy fydd yn derbyn arian a atafaelwyd o droseddwyr yng Ngogledd Cymru.
Mae arbenigwr blaenllaw yn cefnogi galwadau am gynllun peilot yng ngogledd Cymru i roi heroin ar bresgripsiwn am ddim i bobl sy’n gaeth i gyffuriau.
Mae ffilm bwerus wedi cael ei lansio i rybuddio plant ysgol o beryglon llinellau masnachu cyffuriau trwy ddarlunio bywydau merched yn eu harddegau a gafodd eu rhwydo yn y fasnach ddieflig.
Mae ymgais ar droed yng ngogledd Cymru i ddod o hyd i wirfoddolwyr i weithredu fel ymwelwyr â’r ddalfa er mwyn cadw llygad ar yr heddlu.
Mae pennaeth heddlu yng ngogledd Cymru yn cefnogi cynlluniau ar gyfer “cardiau canabis” newydd i ddefnyddwyr meddyginiaethol a fyddai i bob pwrpas yn golygu na fyddai bod ym meddiant y cyffur yn arwain at record droseddol iddynt.
Mae mam i dri wedi dweud sut y ceisiodd ei phartner treisgar ei lladd drwy yrru ei gar yn fwriadol yn gyflym i mewn i wal gerrig pan oedd hi’n feichiog.