Skip to main content

Newyddion

Ymwelodd uned therapi symudol newydd â Phencadlys Heddlu Gogledd Cymru ym Mae Colwyn heddiw i fwrw goleuni ar ymdrechion i atal trais yn erbyn merched mewn cymunedau ledled y rhanbarth.

Bu Maes-G ShowZone yn dathlu eu Prosiect Ffilm ar gyfer 2022 ar ddydd Mercher, 13 Ebrill, drwy ddangos ffilm am y tro cyntaf yng nghwmni'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Andy Dunbobbin yn ogystal â'r Arolygydd Arwel Hughes, Rhingyll Kirsty Miller a swyddogion o Heddlu Gogledd Cymru yn Eglwys y Groes ym Maesgeirchen, Bangor.

Ymwelodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Andy Dunbobbin â Gwersylla Dosbarth Talwrn o Sgowtiaid Ynys Môn ar 23 Ebrill 2022 i ddysgu mwy am waith a gweithgareddau'r grŵp, ac i weld sut mae arian a gymerir oddi wrth droseddwyr yn cael ei ddefnyddio'n y gymuned.

Gwnaeth Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTh) Gogledd Cymru, a'r Dirprwy CHTh Wayne Jones, ymweld â Dechrau Newydd ar Ffordd Rhosddu, Wrecsam ddydd Mawrth 12 Ebrill i ddysgu mwy am ei waith hanfodol yn y gymuned. Bu iddynt hefyd gyfarfod â'i dim sy'n gweithio'n galed i leihau aildroseddu ledled Gogledd Cymru.

Mae'r cynllun newydd gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd Andy Dunbobbin yn cydnabod mentrau sy'n torri tir newydd wrth ymdrin ag achosion o drosedd ledled y rhanbarth

Bu Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Andy Dunbobbin yn cyfarfod ag arweinwyr cymunedol lleol a chynrychiolwyr o Gyngor Tref Prestatyn, Ysgol Uwchradd Prestatyn a Heddlu Gogledd Cymru ddydd Mawrth 29 Mawrth i drafod ymddygiad gwrthgymdeithasol parhaus yn yr ardal a mesurau sydd ar y gweill i ddatrys y problemau.

Mae cyn-filwr sydd wedi cael trafferth gyda dibyniaeth ar gyffuriau a PTSD yn cael ei fywyd yn ôl ar y trywydd iawn diolch i fenter gymdeithasol sy'n helpu pobl agored i niwed.

Mae pennaeth heddlu wedi ymuno â swyddogion ar y bît Wrecsam i weld sut mae bywydau'n cael eu hachub ar strydoedd tref fwyaf gogledd Cymru.

Mae'r gyflwynwraig tywydd teledu, Ruth Dodsworth, wedi siarad am ei phrofiad dirdynnol o gam-drin domestig er mwyn annog dioddefwyr gogledd Cymru i gymryd rhan mewn arolwg newydd.