Skip to main content

Newyddion

Cafodd pobl ifanc o bob rhan o ogledd Cymru a aeth ar fordaith llong hwyliau anhygoel gerdded y carped coch yn nangosiad cyntaf y ffilm am eu hantur.
Mae gwasanaeth hanfodol sy'n amddiffyn merched bregus ledled gogledd Cymru yn bwriadu agor dwy ganolfan gyswllt newydd yn Wrecsam a Bangor er mwyn estyn allan at y rhai mewn angen.
Mae canolfan diogelwch plant arloesol yng ngogledd Cymru wedi cyrraedd carreg filltir bwysig yn ei hanes - gan groesawu ei 100,000fed ymwelydd.

Datgelwyd bod sgamwyr Nadolig creulon yn ceisio codi tâl am drefnu pigiadau atgyfnerthu Covid ffug ar gyfer dioddefwyr yng Ngogledd Cymru.

Mae cynllun newydd wedi cael ei lansio i estyn allan at fyfyrwyr coleg a phrifysgol sydd wedi cael eu cam-drin yn rhywiol fel nad ydynt yn dioddef mewn distawrwydd trwy gydol eu hoes.

Bydd swyddogion heddlu cudd yn cymysgu â phobl allan i ddathlu gyda’r nos yn yr wythnosau cyn y Nadolig er mwyn cadw menywod a merched yn ddiogel.

Mae atalwyr troseddau lleol yng ngogledd Cymru yn cael eu hannog i gynnig am gyfran o gronfa £60,000 o arian a atafaelwyd gan droseddwyr.