On Tuesday, 30 August, Andy Dunbobbin hosted Cheshire PCC John Dwyer at North Wales Police HQ in Colwyn Bay for discussions about policing matters and cross border co-operation.
Aeth Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru i Ddolgellau i weld sut mae gwasanaeth plismona symudol yn gwneud yn siŵr bod gan gymunedau gwledig yng Ngogledd Cymru fynediad gwell i gefnogaeth gan yr heddlu a'u bod yn gwybod ble i fynd pan fyddant yn dioddef trosedd.
Mae Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, wedi cyhoeddi Amanda Blakeman, sydd ar hyn o bryd yn Ddirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Gwent, fel yr ymgeisydd gorau yn ei dyb ef i fod yn Prif Gwnstabl newydd y rhanbarth. Ms Blakeman fydd y Prif Gwnstabl benywaidd cyntaf yn hanes Heddlu Gogledd Cymru.
Croesawodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTh) Gogledd Cymru'r newyddion cyffrous heddiw fod ymgais am £1.5 miliwn o gyllid gan y Swyddfa Gartref i wneud strydoedd Gogledd Cymru yn fwy diogel wedi llwyddo.
Aeth Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru i Langefni ar 20 Gorffennaf i weld adnodd newydd sy'n galluogi dioddefwyr a thystion mewn achosion o gam-drin domestig a thrais rhywiol i roi tystiolaeth gyda chyswllt byw, ymhell oddi wrth adeiladau'r llys.
Atal ymddygiad gwrthgymdeithasol a gweld prosiectau yn cynorthwyo i ymgysylltu gyda phobl ifanc oedd ffocws ymweliad gan Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru a Wayne Jones, Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, i Bwllheli ar ddydd Iau, 21 Gorffennaf.
Aeth Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru i gae Clwb Pêl droed Llangoed ar 20 Gorffennaf i ddysgu mwy am sut mae arian wedi ei atafaelu oddi wrth droseddwyr yn cynorthwyo i ariannu eu prosiect.
Mae Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, wedi ymuno ag ymgyrch genedlaethol i ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a chadw pobl yng Ngogledd Cymru'n ddiogel.
Dangoswyd ffilm yn adrodd hanes rhywun ifanc lleol a laddwyd yn drasig mewn gwrthdrawiad traffig ffordd mewn digwyddiad arbennig yn Rhuthun ar 12 Gorffennaf lle rhannwyd ei diogelwch ffordd grymus gyda'r gymuned leol.
Ymwelodd CHTh Gogledd Cymru â Threffynnon i weld sut mae prosiect cyffrous yn elwa o'r arian sydd wedi ei atafaelu oddi wrth droseddwyr i helpu pobl ifanc i ddatblygu sgiliau newydd drwy grefftau ymladd.