Mae Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru wedi lansio ei Gynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth newydd, sy’n amlinellu penderfynoldeb partneriaid i wneud popeth o fewn eu gallu, yn unigol a gyda’i gilydd, i ddileu unrhyw fath o hiliaeth ar draws y System Cyfiawnder Troseddol.
Mae Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTh) Gogledd Cymru wedi rhoi ei gefnogaeth lwyr i'r ymgyrch Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth Trosedd Casineb . Mae'n cynnal cyfres o ddigwyddiadau er mwyn nodi'r wythnos ac ymgysylltu gyda gwahanol gymunedau ledled y rhanbarth a effeithir gan drosedd casineb.
Yn ddiweddar, cynhaliodd Heddlu Gogledd Cymru gyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu â Chlybiau Ffermwyr Ifanc o bob rhan o Ogledd Cymru, lle manteisiodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd Andy Dunbobbin ar y cyfle i ddangos ei ymrwymiad i sicrhau diogelwch a diogeledd ein cymuned wledig ar draws y rhanbarth.
Mae DASU, y darparwyr achredig mwyaf sy’n cynnig gwasanaethau Adfocatiaeth Trais Domestig Annibynnol (IDVA) yng Ngogledd Cymru wedi ymuno gyda Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd i lansio eu gwasanaethau IDVA yn Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Wrecsam Maelor.
Mae'r ddau sefydliad cyntaf i dderbyn arian drwy gynllun newydd gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTh) Gogledd Cymru Andy Dunbobbin i helpu taclo troseddau wedi cael eu cyhoeddi.
Mewn cyfarfod ar 26 Medi o Banel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru yn adeilad Bodlondeb Cyngor Bwrdeistref Sir Conwy, cadarnhaodd aelodau mai Amanda Blakeman ydy Prif Gwnstabl newydd y rhanbarth.
Aeth cydweithwyr o Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, gan gynnwys y Dirprwy Gomisiynydd Wayne Jones, i lansiad ymgyrch fawr er mwyn cynorthwyo dioddefwyr a goroeswyr cam-drin rhywiol yng Ngogledd Cymru a aeth yn fyw ar 26 Medi 2022.
Ymwelodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, â Chapel Curig ar 17 Medi er mwyn ymuno a Sgowtiaid Ardal Conwy yn eu gwersyll lleol.
Yn dilyn cyhoeddi y newyddion trist am farwolaeth Ei Mawrhydi Y Frenhines mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin wedi gwneud y datganiad canlynol.
Mae strategaeth newydd yn anelu i gynorthwyo gydag ymdrin ag achosion troseddu ymhlith merched yng Ngogledd Cymru a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau merched, lleihau eu cysylltiad gyda’r system cyfiawnder troseddol, a thorri trosedd.