Skip to main content

Newyddion

Gyda chyhoeddi adroddiad y Barwnes Louise Casey i safonau a diwylliant o fewn yr Heddlu Metropolitan, mae Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, wedi gwneud datganiad.

Mae'r CHTh yn craffu gwaith Heddlu Gogledd Cymru drwy amrywiaeth eang o ffyrdd, gan gynnwys y Bwrdd Gweithredu Strategol. Yn y cyfarfod hwn, mae'r CHTh a'i dîm yn cyfarfod gyda'r Prif Swyddogion er mwyn adolygu cyflawniad yr Heddlu ar y cyfan, gan gynnwys o ran blaenoriaethau'r Cynllun Heddlu a Throsedd.

Yn dilyn cyhoeddi’r meincnod cyntaf o gyflawniad yr heddlu ar fynd i’r afael â thrais yn erbyn merched a genethod mae Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, wedi cyhoeddi datganiad.

Mae'r rhestr fer ar gyfer menter 'Eich Cymuned, Eich Dewis', sy'n noddi prosiectau craidd,  wedi cael ei gyhoeddi ac mae gofyn i'r cyhoedd nawr bleidleisio dros eu hoff brosiect i dderbyn arian.

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Andy Dunbobbin yn cynnal cymorthfeydd i drigolion Rhuthun, Sir Ddinbych a'r ardal ar 23 Mawrth yn y bore fel rhan o'i ymgyrch i ddod â phlismona yn agosach at bobl yr ardal.

Yn diweddar, cynhaliodd swyddogion o Heddlu Gogledd Cymru (HGC) sesiwn ymarferion bocsio i ferched a genethod yng Nghanolfan Hamdden Caergybi fel rhan o'r fenter Strydoedd Diogelach.

Mae Gwarchod Cymdogaeth wedi lansio ymgyrch newydd - ei ymgyrch recriwtio mwyaf yn y blynyddoedd diweddar - i annog pobl i gyfrannu at eu cymuned a lleihau ofn a thebygrwydd o drosedd. 

Ar ddydd Mawrth 28 Chwefror, rhannwyd stori Olivia Alkir, geneth ifanc o Ruthun, gyda deddfwyr, ymgyrchwyr diogelwch ffyrdd, y gwasanaethau brys a chynrychiolwyr o'r diwydiant yswiriant yn y Senedd gyda'r nod o wneud ein ffyrdd yn fwy diogel i bobl ifanc yng Nghymru.

Heddiw, cyhoeddir adroddiad allweddol gan Heddlu Gogledd Cymru wedi'i baratoi yn dilyn canfod David Carrick yn euog am lu o droseddau fel treisio, trais yn erbyn merched ac ymddygiad gorfodol tra roedd yn swyddog yn yr Heddlu Metropolitan.

Mae’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn agor ffenest recriwtio ar gyfer pobl i eistedd ar banel Gwrandawiadau Camymddygiad yr Heddlu yng Nghymru.