Skip to main content

Newyddion

Ymunodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, ag ymarfer gwisgoedd terfynol cynhyrchiad newydd grŵp gweithgarwch lleol Kaleidoscope o Beauty and the Beast ym Mae Colwyn ar 13 Mai.

Aeth Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, i weld â Woody's Lodge ym Mharc Eirias ym Mae Colwyn ar 10 Mai er mwyn dysgu mwy am waith gwerthfawr y sefydliad gyda chyn filwyr y Lluoedd Arfog yn y gymuned leol. Gwelodd sut mae'r arian a gymerwyd oddi ar droseddwyr yn cael ei ddefnyddio er budd pobl Gogledd Cymru. 

Aeth Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, i weld Clwb Beicio'r Rhyl ar 11 Mai er mwyn gweld y gwaith hanfodol mae'r clwb yn ei wneud yn y gymuned a gweld faint o arian a gymerwyd oddi ar droseddwyr sy'n cael ei ddefnyddio er budd pobl yr ardal. 

Ar 5 Mai, ymwelodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru â Llanfaes er mwyn cyfarfod â'r pwyllgor sy'n rheoli'r ganolfan gymunedol yn yr ardal i ddysgu mwy am eu gwaith a'u cynlluniau i wella'r gymuned leol.

Ar 27 Ebrill, gwnaeth y Comisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTh) Andy Dunbobbin gynorthwyo lansiad Strategaeth Troseddau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 2023-2025. Mae hon yn strategaeth sydd wedi'i chreu ar y cyd gan bedwar heddlu Cymru a Llywodraeth Cymru, yng Nghynhadledd Troseddau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad ar Faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd.

Aeth Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru i weld hyb lles Blossom and Bloom yng Nghanolfan y Rhosyn Gwyn yn y Rhyl ar 28 Ebrill. Roedd hyn er mwyn gweld y gwaith pwysig mae'r elusen yn ei wneud er mwyn cynorthwyo mamau a'u babanod yn y gymuned leol. 

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Andy Dunbobbin wedi addo ei gefnogaeth i Wythnos Genedlaethol Codi Ymwybyddiaeth Stelcian (24-28 Ebrill)

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Andy Dunbobbin yn cynnal cymorthfeydd yng Nhy Cwrdd y Crynwyr, Stryd y Deon i drigolion Bangor a'r ardal o 1pm i 3pm ar 25 Mai fel rhan o'i ymgyrch i ddod â phlismona yn agosach at bobl yr ardal.

Datganiad gan Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru ar Ddiwrnod Stephen Lawrence 2023

Mae Heddlu Gogledd Cymru a Chomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru yn cynnal digwyddiad rhad ac am ddim i berchnogion busnes a sefydliadau sector gyhoeddus yng Ngogledd Cymru ar sut i adnabod Caethwasiaeth Fodern a'r peryglon y mae yn ei osod ar yr economi leol.