Skip to main content

Newyddion

Heddiw (12/1/23) ceir lansiad adolygiad annibynnol i blismona'r Ddeddf Hela yng Ngogledd Cymru.  Gorchmynnwyd yr adolygiad fis Mai 2022 gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Andy Dunbobbin a thra bod y testun yn pwysleisio bod gweithredoedd Heddlu Gogledd Cymru yn dilyn arfer da, mae hefyd yn gwneud awgrymiadau i'r Heddlu ar sut i blismona hela ar draws yr ardal.

Ymunodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, â swyddogion o heddlu Dinas Wrecsam ar ddydd Mercher 11 Ionawr am ddigwyddiad arbennig yn siop Alf Jones Cycles yng Ngresffordd er mwyn nodi trosglwyddo pedwar beic trydan.

Yn ddiweddar, ymwelodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Andy Dunbobbin â Chanolfan Arwerthu Lloyd Williams & Hughes ym Mryncir, Garndolbenmaen, er mwyn sgwrsio gyda'r gymuned wledig leol a gweld sut mae'r ganolfan yn fforwm gwerthfawr i'r gymuned yn yr ardal.

Ar ddydd Iau 5 Ionawr, gwnaeth Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, gyfarfod â'r Cynghorydd Gwennol Ellis, sy'n cynrychioli Ward Uwchaled ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, er mwyn trafod problemau diogelwch ffordd yng Nglasfryn ger Cerrigydrudion a'r ymgyrch gan drigolion er mwyn lleihau'r terfyn cyflymder ar yr A5 drwy'r pentref. Cerddodd y CHTh a'r Cynghorydd Ellis ar hyd y rhan o'r ffordd drwy'r pentref o Safle Bws yr Hen Bost i hen Ysgol Ty'n y Felin er mwyn deall y problemau gyda goryrru'n effeithio ar drigolion. 

North Wales Police and Crime Commissioner Andy Dunbobbin joined officers from North Wales Police’s Roads Policing Unit (RPU) as part of their Christmas anti-drink and drug driving campaign on the evening of 21 December.

Wrth i'r bargeinion ddechrau, a llawer o bobl yn manteisio ar gynigion a bargeinion arbennig ar-lein, mae Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, ac Uned Troseddau Economaidd Heddlu Gogledd Cymru wedi dod at ei gilydd er mwyn gofyn i'r cyhoedd wneud adduned Blwyddyn Newydd i warchod eu hunain rhag twyll ar y rhyngrwyd drwy ddilyn cynghorion bach syml.

Mae penodi  Alan Jones, Cynghorwr Annibynnol ar Drais Domestig (IDVA) ac Arron Roberts, Gweithiwr Plant a Phobl ifanc  dros y 18 mis diwethaf wedi bod yn ychwanegiad i'w groesawu i Gorwel, gwasanaeth sy'n cael ei redeg gan Grŵp Cynefin, sy'n gweithredu yng Ngwynedd ac Ynys Môn yn darparu cymorth a chefnogaeth i bobl sy'n dioddef cam-drin domestig. 

Wrth i’r flwyddyn ddirwyn i ben a ninnau’n edrych ymlaen at gyfnod yr ŵyl, hoffai’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Andy Dunbobbin ddymuno Nadolig Llawen iawn a Blwyddyn Newydd Dda hapus i chi, eich teuluoedd, ffrindiau ac anwyliaid.

Aeth Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTh) Gogledd Cymru i bencadlys Y Bont ym Mhenygroes ar 8 Rhagfyr i weld sut mae arian o'i fenter Arloesi i Dyfu yn cynorthwyo i helpu merched a'u teuluoedd yn cael eu heffeithio gan garchar yng Ngogledd Cymru.

Mae Eich Cymuned, Eich Dewis yn dathlu deng mlynedd o ariannu prosiectau yn 2023 ac i ddathlu'r garreg filltir hon, mae'r arian sydd ar gael i wneud cais amdano wedi dyblu i £120,000.