Skip to main content

Newyddion

Ar nos Wener, 25 Tachwedd cyfarfu Comisiynydd Heddlu a Throsedd Heddlu Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin ac Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Cyngor Sir Wrecsam ar Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol, y Cynghorydd Paul Roberts â phobl leol sy'n helpu cadw trigolion ac ymwelwyr yn Wrecsam yn ddiogel yn ystod cyfnod y Nadolig. Roedd dyddiad yr ymweliad hefyd yn bwysig gan mai Diwrnod y Rhuban Gwyn oedd hi, diwrnod rhyngwladol sy'n anelu at ddod â thrais gan ddynion yn erbyn merched a genethod i ben.

Gyda chyfnod y Nadolig yn agosáu mae swyddogion ar draws Cymru yn atgoffa pobl sy’n edrych ymlaen at noson allan i beidio yfed a gyrru neu yrru ar gyffuriau.

Mae Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru yn gofyn i bobl Gogledd Cymru i ddweud eu barn ar faint o arian maent yn barod i dalu am blismona fel rhan o ymgynghoriad cyhoeddus ac arolwg.

Mae Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTh) Gogledd Cymru wedi dangos ei gefnogaeth i Ddiwrnod y Rhuban Gwyn, sy'n ceisio rhoi terfyn ar drais gan ddynion yn erbyn merched a genethod. Mae Diwrnod y Rhuban Gwyn yn cael ei gydnabod yn fudiad byd-eang ac eleni mae'n disgyn ar 25 Tachwedd.  Yn y DU arweinir y diwrnod gan White Ribbon UK, y brif elusen sy'n ceisio cael dynion a bechgyn i ddod â thrais yn erbyn merched a genethod i ben.

Mae cynhadledd y cyntaf o'i bath wedi digwydd yng Nghyffordd Llandudno er mwyn edrych ar sut y gall asiantaethau a sefydliadau gwahanol, o'r heddlu i wasanaethau iechyd a chymdeithasol, ddod at ei gilydd i ymdrin ag achosion o drais domestig a chaethwasiaeth fodern yng Ngogledd Cymru. Cynhaliwyd y digwyddiad, o'r enw Pawb yn Un, yng Nghanolfan Fusnes Conwy ac fe'i trefnwyd gan Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, gan ychwanegu at waith Bwrdd Bregusrwydd a Chamfanteisio Gogledd Cymru yn yr ardal hon.

Aeth Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTh) Gogledd Cymru i Siop Hipi RainbowBiz yn yr Wyddgrug ar 17 Tachwedd. Roedd hyn er mwyn gweld sut mae cyllid o'i fenter Arloesi i Dyfu yn cynorthwyo prosiect er mwyn cynorthwyo trigolion sy'n dioddef unigedd, wedi profi Trosedd Casineb, neu sy'n cael trafferth ymdopi gyda'u hiechyd meddwl.

Ar ddydd Gwener, 11 Tachwedd, gwnaeth disgyblion Blwyddyn 11 a'r Chweched yn Ysgol Brynhyfryd yn Rhuthun brofi sut mae bod mewn achos llys, gydag achos ffug ym mhrif neuadd yr ysgol. Roedd y digwyddiad er mwyn codi ymwybyddiaeth am ddiogelwch ar y ffyrdd.  

Mae 15 Tachwedd yn nodi deng mlynedd ers ethol Comisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTh) cyntaf Gogledd Cymru, a dechrau llais poblogaidd mwy uniongyrchol mewn plismona. Ers hynny, mae'r rhanbarth wedi gweld tri gwahanol Gomisiynydd. Mae dathlu'r deg yn ein galluogi ni edrych yn ôl ar greu'r rôl, yr hyn mae wedi'i ddod i blismona yng Ngogledd Cymru, a pha newidiadau a all pobl eu gweld yn y blynyddoedd i ddod. 

Yn ddiweddar, ymwelodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, â Safle Traffig Heddlu Gogledd Cymru yn Llandygai er mwyn cyfarfod swyddogion yn yr Uned Plismona Ffyrdd a dysgu mwy am eu gwaith er mwyn cadw trigolion ledled Gogledd Cymru'n ddiogel ar y ffordd. Mae'r ymweliad wedi cyd-fynd ag Wythnos Diogelwch Ffyrdd Brake, sydd yn cael ei chynnal rhwng 14 a 20 Tachwedd.

Ar ddydd Mawrth, Tachwedd 1, cyfarfu Comisiynydd Cam-drin Domestig Cymru a Lloegr, Nicole Jacobs, yn DASU (Uned Diogelwch Cam-drin Domestig)) yn Wrecsam.