Skip to main content

Newyddion

Siaradodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru â myfyrwyr ail flwyddyn lleol o'r cwrs Gradd Plismona Proffesiynol yng Ngholeg Llandrillo yn Llandrillo yn Rhos ar 25 Hydref er mwyn trafod ei rôl a sut mae'n gweithio. Siaradodd am ei gynllun i leihau trosedd yng Ngogledd Cymru a sut all pobl ifanc a'u cymunedau gymryd rhan yn y frwydr yn erbyn trosedd. 

Ar ddydd Gwener 21 Hydref, siaradodd Andy Dunbobbin, yn y gynhadledd 'Hear Our Voice' yng Ngwesty'r Beaches, Prestatyn. Cynhaliwyd y digwyddiad gan Hunaneiriolaeth Prestatyn, grŵp hunaneiriolaeth pobl gydag anableddau dysgu sy'n gweithredu yn Sir Ddinbych. 

Mewn adroddiad a gyhoeddwyd ar 22 Medi gan y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol [NYAS], nodwyd Cynllun Heddlu a Throsedd Comisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTh) Gogledd Cymru fel arfer dda.

Mae Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru wedi lansio ei Gynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth newydd, sy’n amlinellu penderfynoldeb partneriaid i wneud popeth o fewn eu gallu, yn unigol a gyda’i gilydd, i ddileu unrhyw fath o hiliaeth ar draws y System Cyfiawnder Troseddol.

Mae Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTh) Gogledd Cymru wedi rhoi ei gefnogaeth lwyr i'r ymgyrch Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth Trosedd Casineb . Mae'n cynnal cyfres o ddigwyddiadau er mwyn nodi'r wythnos ac ymgysylltu gyda gwahanol gymunedau ledled y rhanbarth a effeithir gan drosedd casineb.

Yn ddiweddar, cynhaliodd Heddlu Gogledd Cymru gyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu â Chlybiau Ffermwyr Ifanc o bob rhan o Ogledd Cymru, lle manteisiodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd Andy Dunbobbin ar y cyfle i ddangos ei ymrwymiad i sicrhau diogelwch a diogeledd ein cymuned wledig ar draws y rhanbarth.

Mae DASU, y darparwyr achredig mwyaf sy’n cynnig gwasanaethau Adfocatiaeth Trais Domestig Annibynnol (IDVA) yng Ngogledd Cymru wedi ymuno gyda Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd i lansio eu gwasanaethau IDVA yn Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Wrecsam Maelor.

Mae'r ddau sefydliad cyntaf i dderbyn arian drwy gynllun newydd gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTh) Gogledd Cymru Andy Dunbobbin i helpu taclo troseddau wedi cael eu cyhoeddi.

Mewn cyfarfod ar 26 Medi o Banel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru yn adeilad Bodlondeb Cyngor Bwrdeistref Sir Conwy, cadarnhaodd aelodau mai Amanda Blakeman ydy Prif Gwnstabl newydd y rhanbarth.

Aeth cydweithwyr o Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, gan gynnwys y Dirprwy Gomisiynydd Wayne Jones, i lansiad ymgyrch fawr er mwyn cynorthwyo dioddefwyr a goroeswyr cam-drin rhywiol yng Ngogledd Cymru a aeth yn fyw ar 26 Medi 2022.